merched o sylwedd merched bangor uchaf
TRANSCRIPT
Merched o Sylwedd
Merched Bangor Uchaf
Women of Substance
Women of Upper Bangor
Croeso i Daith Gerdded Treftadaeth Menywod Bangor gan Archif Menywod
Cymru. Mae’r Daith Gerdded Dreftadaeth hon wedi ei datblygu mewn partneriaeth
rhwng Archif Menywod Cymru ac Adran Archifau, Prifysgol Bangor.
Mae’r llyfryn hwn yn un o gyfres a gynlluniwyd i hyrwyddo dealltwriaeth o hanes
menywod yng Nghymru. Mae hanes menywod yn aml yn guddiedig, wedi’i
anwybyddu neu’i esgeuluso. Nod Archif Menywod Cymru yw ail-ddarganfod y
menywod hynny sydd wedi lliwio ein hanes ac adfer iddynt eu lle priodol ynddo.
Yn y llyfryn hwn rydym wedi dewis canolbwyntio ar y menywod neu'r grwpiau
hynny o fenywod y gellir dweud eu hanesion wrth gerdded ar hyd y llwybr penodol
hwn. Mae'n gymysgedd eclectig o fenywod o bob dosbarth a chefndir.
Mwynhewch!
Welcome to Women’s Archive Wales’ Bangor Women’s Heritage Walk. This
Women’s Heritage Walk has been developed jointly by Women’s Archive Wales
and the Archives Department of Bangor University.
This booklet is one of a series designed to promote an understanding of women’s
history in Wales. Women’s history has often been hidden, ignored or neglected.
The aim of Women’s Archive Wales is to re-discover the women who have
contributed so much to our history and to restore them to their rightful place. In
this booklet we have chosen to focus on those women or groups of women whose
stories can be told while walking along this specific route. It is an eclectic mix of
women from all classes and backgrounds.
Enjoy ! Shan Robinson, Dinah Evans and Val Wakefield.
The walk will be along pavements and should take about 1 - 1½ hours
Bydd y daith gerdded ar hyd palmentydd a dylai gymryd tua 1 - 1½ awr
Map: Ron Evans
The Walk / Y Daith
Our walk will begin at the Wartski Fields on Holyhead Road (1) then travel
along the road in the direction of Upper Bangor, travel down College Road and
end outside the home of Charlotte Price White on Upper Garth Road (12).
Bydd ein taith gerdded yn dechrau ar Gaeau Wartski ar Ffordd Caergybi (1) ac
yna'n teithio ar hyd y ffordd i gyfeiriad Bangor Uchaf, yn teithio i lawr Ffordd y
Coleg ac yn gorffen y tu allan i gartref Charlotte Price White ar Heol Garth Uchaf
(12).
The walk will include the histories of these women:
Bydd y daith gerdded yn cynnwys hanes y menywod hyn:
(1) Winifred Wartski: Wartski Fields & Derwen Deg
(2) Margaret Verney: Plas Rhianfa & Prifysgol Bangor
University
(3) Brenda Chamberlain: 10 Menai View
(4) Ann Harriet Hughes: Craig-y-Don
(5) Alice Gray Jones: 20, Ffordd y Coleg / College Road
(6) Mary Silyn Roberts: Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg / College Road
(7) Mary Rathbone: Bryn Hyfryd, Y Cilgaint / The Crescent
Yn mynd heibio / Passing (8) Prifysgol Bangor University
(9) Dilys Glynne Jones: Glyndil, Ffordd Siliwen Road
Yn mynd heibio / Passing (10) Ysgol Sir Genethod, Bangor County
School For Girls
Yn mynd heibio / Passing (11) Hostel y Merched /Women's Hostel
(12) Charlotte Price White: 50, Ffordd Garth Uchaf / Upper Garth
Road
Winifred Wartski
1890 - 1982
Images reproduced by kind permission of Wartski’s, London
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Wartski’s, Llundain
In Bangor Winifred Wartski is probably best remembered for donating the Wartski Fields to
the city in 1968 in memory of her late husband, Isidore, a prominent Bangor businessman
and son of Morris Wartski, the renowned jeweller. However there is more to Winifred’s story
than this. In the years before the outbreak of the Second World War she was a member of the
North Wales Women’s Peace Council that worked vigorously to prevent the horrors of the
1914-1918 war being repeated. When war was eventually declared in 1939, Winifred’s
husband was Mayor of Bangor and she his Mayoress. They worked tirelessly to help the
needy of Bangor who were being affected by food shortages, however their charity did not
end there for at the same time they opened their home at Derwen Deg to Jewish refugees
arriving in Britain from Europe.
Ym Mangor mae Winifred Wartski yn cael ei chofio’n bennaf am roi Caeau Wartski i'r ddinas
yn 1968 er cof am ei diweddar ŵr, Isidore, dyn busnes blaenllaw ym Mangor, a mab Morris
Wartski, y gemydd enwog. Fodd bynnag, mae mwy i stori Winifred na hyn. Yn y blynyddoedd
cyn yr Ail Ryfel Byd roedd hi'n aelod o Gyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru a
gweithiodd yn egnïol i atal erchyllterau rhyfel 1914-1918 rhag cael eu hailadrodd. Pan
gyhoeddwyd y rhyfel yn 1939, roedd gŵr Winifred yn Faer Bangor a'i hithau’n Faeres.
Gweithiodd Winifred a’i gŵr yn ddiflino i helpu anghenus Bangor a oedd yn cael eu heffeithio
gan brinder bwyd. Fodd bynnag, nid dyna hyd a lled eu caredigrwydd gan eu bod hefyd wedi
agor eu cartref yn Derwen Deg i ffoaduriaid Iddewig yn cyrraedd Prydain o Ewrop.
Margaret Verney
1844 - 1930
Images reproduced by kind permission of Bangor University Archive
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Archifdy Prifysgol Bangor
Margaret, Lady Verney, an accomplished author and historian, was the daughter of Sir John
Hay Williams of Bodelwyddan and the wife of Sir Edmund Hope Verney, one-time MP for
Buckinghamshire. She was an inveterate campaigner for education and, with Hugh Owen, was
instrumental in the establishment of the North Wales Scholarship Association which sought to
provide financial support for children (of both sexes) in north Wales to attend secondary
schools and higher education. For nearly 30 years Margaret was a member of the University
Court (now known as the Council) of the University of Wales as well as representing the
Council at both the National Library of Wales and on Bangor Council. For her efforts she was
appointed as Junior Deputy Chancellor of the University of Wales and awarded the honorary
degree of Doctor of Laws.
Roedd Margaret, yr Arglwyddes Verney, yn awdur a hanesydd medrus. Roedd yn ferch i Syr
John Hay Williams o Fodelwyddan ac yn wraig i Syr Edmund Hope Verney, a fu’n AS dros
Swydd Buckingham. Bu'n ymgyrchydd di-ail dros addysg a, gyda Hugh Owen, bu'n allweddol
yn sefydlu Cymdeithas Ysgoloriaeth Gogledd Cymru a geisiai ddarparu cymorth ariannol i
blant (o'r ddau ryw) yng ngogledd Cymru i fynychu ysgolion uwchradd ac addysg uwch. Am
bron i 30 mlynedd, roedd yn aelod o Lys (a elwir bellach yn Gyngor) Prifysgol Cymru yn
ogystal â chynrychioli'r Cyngor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar Gyngor Bangor. Am
ei hymdrechion fe'i penodwyd yn Ddirprwy Ganghellor Iau Prifysgol Cymru a derbyniodd
radd anrhydeddus Doethur yn y Gyfraith.
Brenda Chamberlain
1912 - 1971
Images reproduced by kind permission of Bangor University
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor
Brenda Chamberlain won the first two gold medals ever awarded for Fine Art by
the National Eisteddfod. The daughter of Bangor’s first female mayor, Brenda studied at
Bangor County School for Girls, the Royal Cambrian Academy in Conwy and the Royal
Academy. It was there that she met her husband, John Petts who returned with her to Rachub
to set up the Caseg Press project (producing greetings cards) and then collaborating on the
‘Caseg Broadsheets’ featuring poems by Brenda herself as well as Dylan Thomas, Alun Lewis
and Lynette Roberts. After her marriage ended in 1943, Brenda travelled widely, painting and
writing. She lived on Bardsey Island as well as on the Greek island of Hydra. When the Greek
military staged its coup in 1967 Brenda returned to Bangor to live at 10 Menai View Terrace
until her death in 1971. Her final exhibition, featuring work done on Hydra, was organised by
the Welsh Arts Council in 1970.
Enillodd Brenda Chamberlain y ddwy fedal aur gyntaf am Gelf Gain a roddwyd gan yr
Eisteddfod Genedlaethol. Astudiodd Brenda, merch maer benywaidd cyntaf Bangor, yn Ysgol
Sir Genethod Bangor, Academi Frenhinol y Cambrian yng Nghonwy a'r Academi Frenhinol.
Yno y cyfarfu â'i gŵr, John Petts, a ddychwelodd gyda hi i Rachub i sefydlu prosiect Caseg
Press (cynhyrchu cardiau cyfarch) ac yna cydweithio ar y 'Caseg Broadsheets' yn cynnwys
cerddi gan Brenda ei hun yn ogystal â Dylan Thomas, Alun Lewis a Lynette Roberts. Ar ôl i'w
phriodas ddod i ben yn 1943, teithiodd Brenda yn eang, yn paentio ac yn ysgrifennu. Bu’n
byw ar Ynys Enlli yn ogystal ag ar Ynys Hydra yng ngwlad Groeg. Pan lwyfannodd byddin
gwlad Groeg ei coup yn 1967 dychwelodd Brenda i Fangor i fyw yn 10 Menai View tan ei
marwolaeth yn 1971. Trefnwyd ei harddangosfa olaf, a oedd yn cynnwys gwaith a wnaed ar
Hydra, gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1970.
Ann Harriet Hughes / (nom de plume) Gwyneth Vaughan
1852 - 1910
casgliadywerin.cymru/items/476182
Although Ann Hughes is best remembered as a writer she was also an active member of the
Gorsedd, Gwyrfai Rural District Council, Caernarfonshire Joint Committee for Health, the
Board of Guardians, the Temperance Society, Mudiad Cymru Fydd and Undeb y Ddraig Goch.
She wrote for the Welsh Weekly, a journal of Welsh religious and social life, as well as for Yr
Eryr, Y Cymro, Perl y Plant, Cymru’r Plant and yr Haul. She edited the translations into Welsh
of evangelical works of the Scot, Henry Drummond. When Ann’s doctor husband died she
moved to Bangor to live and continued her work, contributing to Celtic Review and writing
three novels: O Gorlannau'r Defaid (1905), Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (1908) and Plant
y Gorthrwm (1908).Her final work, Troad y Rhod remained unfinished on her death.
Er mai fel awdur y cofir am Ann Hughes yn bennaf, roedd hi hefyd yn aelod gweithgar o'r
Orsedd, Cyngor Dosbarth Gwledig Gwyrfai, Cyd-bwyllgor Iechyd Sir Gaernarfon, Bwrdd y
Gwarcheidwaid, y Gymdeithas Ddirwest, Mudiad Cymru Fydd ac Undeb y Ddraig Goch.
Ysgrifennai yn y Welsh Weekly, cylchgrawn am fywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru, yn
ogystal ag ar gyfer Yr Eryr, Y Cymro, Perl y Plant, Cymru'r Plant a'r Haul. Golygodd y
cyfieithiadau i'r Gymraeg o weithiau efengylaidd yr Albanwr, Henry Drummond. Pan fu farw
ei gŵr, a oedd yn feddyg, symudodd Ann i Fangor i fyw a pharhaodd â'i gwaith, gan gyfrannu
i’r Celtic Review ac ysgrifennu tair nofel: O Gorlannau'r Defaid (1905), Cysgodau y
Blynyddoedd Gynt (1908) a Plant y Gorthrwm (1908). Roedd ei gwaith olaf, Troad y Rhod yn
anorffenedig pan fu farw.
Alice Gray Jones / (nom de plume) Ceridwen Peris
1852 - 1943
Delwedd ar gael i'r cyhoedd
Image in public domain
HEFYD/ ALSO Paper Pawb 28.12.1895
Archifdy Prifysgol Bangor University Archive
Alice was an assistant teacher in Caernarfon before attending Teacher Training College in
Swansea. On her return she was appointed head teacher at Ysgol Dolbadarn. She stood down
as head teacher on her marriage although she did become a governor at Pwllheli County
School. A staunch supporter of the Temperance Movement and co-founder of the North Wales
Women's Temperance Union, Alice was also an accomplished author and poet. In addition to
contributing to Y Frythones she established Y Gymraes in 1896 and was its editor for 23 years.
She wrote a number of children’s books, including Caniadau Ceridwen Peris besides
undertaking the translation of Britannia, a play by Alice Williams (Alys Meirion). She lived
for many years in Criccieth but at the end of her life moved to Bangor to live with her daughter.
She died in 1943 having been awarded an OBE in 1921 for her service to good causes.
Roedd Alice yn athrawes gynorthwyol yng Nghaernarfon cyn mynychu Coleg Hyfforddi
Athrawon Abertawe. Ar ôl iddi ddychwelyd fe'i penodwyd yn bennaeth Ysgol Dolbadarn.
Ymddiswyddodd fel pennaeth ar ei phriodas er iddi ddod yn llywodraethwraig Ysgol Sir
Pwllheli. Roedd hi’n gefnogwraig frwd y Mudiad Dirwest ac yn gyd-sylfaenydd Undeb
Dirwestol Merched Gogledd Cymru, a hefyd yn awdur a bardd medrus. Yn ogystal â chyfrannu
at Y Frythones sefydlodd Y Gymraes yn 1896 a bu'n olygydd am 23 mlynedd. Ysgrifennodd
nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Caniadau Ceridwen Peris, a chyfieithodd Britannia, drama
gan Alice Williams (Alys Meirion). Bu'n byw am flynyddoedd lawer yng Nghricieth ond ar
ddiwedd ei hoes symudodd i Fangor i fyw gyda'i merch. Bu farw yn 1943 ar ôl cael OBE yn
1921 am ei gwasanaeth i achosion da.
Mary Silyn Roberts
1877 - 1972
Images reproduced by kind permission of Sally Clifton / Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Sally Clifton
Mary Silyn was one of the first women to earn a degree at Aberystwyth University. On
completion of her degree she also went on to lecture there. In 1904 and 1905 she and her future
husband, Silyn, travelled to Denmark to research adult education in that country. However
Mary and her husband are best known for establishing the Workers Educational Association
in north Wales, and she was its secretary. The WEA had been founded in 1903 to provide
education for working adults. A suffragist before the First World War, during the war Mary
was the Organising Officer for Wales, encouraging women to grow more produce. One of the
founder members of the North Wales Women’s Peace Council, Mary, together with Gwladys
Thoday and Charlotte Price White of Bangor, led a procession of women walking from
Penygroes through north Wales en route to the Hyde Park Peace demonstration in 1926.
Mary Silyn oedd un o'r menywod cyntaf i ennill gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl
cwblhau ei gradd aeth ymlaen i ddarlithio yno hefyd. Yn 1904 a 1905 teithiodd hi a Silyn, ei
phriod maes o law, i Ddenmarc i ymchwilio i addysg oedolion yn y wlad honno. Fodd bynnag,
mae Mary a'i gŵr fwyaf adnabyddus am sefydlu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng
ngogledd Cymru a hi oedd yr ysgrifennydd. Sefydlwyd y WEA yn 1903 i ddarparu addysg i
oedolion sy'n gweithio. Un o'r etholfreintwyr cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ystod y rhyfel Mary
oedd Trefnydd Cymru yn annog menywod i dyfu mwy o gynnyrch. Roedd yn un o aelodau
sylfaenol Cyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru. Arweiniodd Mary, ynghyd â Gwladys
Thoday a Charlotte Price White o Fangor, orymdaith o fenywod a gerddodd o Benygroes drwy
ogledd Cymru ar ei ffordd i wrthdystiad Heddwch Hyde Park yn 1926.
Mary Rathbone
1860 - 1937
Images reproduced by kind permission of Bangor University
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor
Mary was a member of the Rathbone family of Llandegfan and the great niece of William
Rathbone MP, a founder of the University College of North Wales, Bangor. Mary too had
strong links to the University, promoting the cause of adult and university education, for which
she was granted an honorary Doctorate in Laws. She was an original member of the Women’s
Institute established in Llanfair PG in 1915. Indeed her interests were far reaching, the Welsh
language, housing, even agriculture and forestry. She was particularly active in the North
Wales Branch of the Association for Reconstruction which worked to advance recovery and
prosperity, after the First World War. Later, she was involved with the feasibility of developing
water-power plants in north Wales and, through her work with the Pilgrim Trust,
commissioning research into the industrial conditions at Brymbo.
Roedd Mary yn aelod o deulu Rathbone Llandegfan a gor-nith William Rathbone AS, un o
sylfaenwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Roedd gan Mary hefyd gysylltiadau cryf
â'r Brifysgol, gan hyrwyddo achos addysg oedolion a phrifysgol, ac oherwydd hyn derbyniodd
radd anrhydeddus Doethur yn y Gyfraith. Roedd yn aelod gwreiddiol cangen gyntaf y DU o
Sefydliad y Merched a gychwynwyd yn Llanfair PG yn 1915.Yn wir, roedd ei diddordebau'n
bellgyrhaeddol, yr iaith Gymraeg, hyd yn oed amaethyddiaeth a choedwigaeth. Roedd hi'n
arbennig o weithgar yng Nghangen Gogledd Cymru’r Gymdeithas Ailstrwythuro a weithiai i
wella adferiad a ffyniant, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddiweddarach, bu'n ymwneud ag
ymarferoldeb datblygu gweithfeydd pŵer dŵr yn y gogledd a, thrwy ei gwaith gydag
Ymddiriedolaeth Pilgrim, comisiynwyd ymchwil i'r amodau diwydiannol ym Mrymbo.
Prifysgol Bangor University
Images reproduced by kind permission of Bangor University
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor
Bangor University first opened its doors on 18 October 1884 through the fundraising efforts
of quarrymen and farmers who sought to give the local people the opportunity to receive higher
education. Initially a constituent college of the University of Wales, it was based in a hotel
down by the sea. In 1903 the city of Bangor donated the land to allow for this Grade 1 listed
building to be erected. Women were welcomed from the beginning. Across the road was
Bangor Normal, a teacher training college established in 1858 through the efforts of Sir Hugh
Owen, which settled on this site in 1862. In 1908 the college began to admit women. In 1996
the College became a part of the University.
Agorodd Prifysgol Bangor ei drysau am y tro cyntaf ar 18 Hydref 1884 trwy ymdrechion
codi arian chwarelwyr a ffermwyr a ddymunai roi cyfle i'r bobl leol dderbyn addysg uwch. Ar
y dechrau, un o golegau cyfansoddol Prifysgol Cymru ydoedd, fe'i lleolwyd mewn gwesty i
lawr ar lan y môr. Yn 1903 rhoddodd dinas Bangor dir i ganiatáu codi’r adeilad rhestredig
Gradd 1 hwn. Croesawyd menywod o'r dechrau. Ar draws y ffordd roedd y Coleg Normal,
coleg hyfforddi athrawon a sefydlwyd yn 1858 trwy ymdrechion Syr Hugh Owen ac a
sefydlwyd ar y safle hwn yn 1862. Yn 1908 dechreuodd y coleg dderbyn menywod. Yn 1996
daeth y Coleg yn rhan o'r Brifysgol.
Dilys Lloyd Glynne Jones
1857 - 1932
Reproduced by kind permission of Bangor
University / Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd
caredig Prifysgol Bangor
Dilys Glynne was a staunch advocate of secondary education for girls and higher education
for Welsh women, taking her campaign to successive national eisteddfods and the London and
Liverpool Welsh societies. She was key in the establishment of the Association for Promoting
the Education of Girls in Wales becoming its vice-president in 1898. She believed an educated
mother was hugely beneficial to the development of her children. Dilys moved to Bangor when
she married in 1889 and lived there for the remainder of her life. She was formative in the
establishment of Bangor’s County School for Girls, was a constant supporter of the University
and determined to see female representation on the governing bodies of higher education
establishments. Only shortly before her death in 1932 she argued for a national education
system, one where Welsh people could be 'free to carry out their own educational
development’ (North Wales Chronicle, 24:03:1932).
Roedd Dilys Glynne yn eiriolwraig frwd dros addysg uwchradd i ferched ac addysg uwch i
fenywod Cymru, gan fynd â'i hymgyrch i eisteddfodau cenedlaethol olynol a chymdeithasau
Cymraeg Llundain a Lerpwl. Roedd hi'n allweddol yn sefydlu Cymdeithas Hyrwyddo Addysg
Merched yng Nghymru gan ddod yn is-lywydd arni yn 1898. Credai fod mam addysgedig o
fudd mawr i ddatblygiad ei phlant. Symudodd Dilys i Fangor pan briododd yn 1889 a bu’n
byw yno am weddill ei hoes. Roedd hi'n allweddol yn sefydlu Ysgol Sir y Genethod Bangor,
ac yn cefnogi’r Brifysgol yn gyson, yn benderfynol o weld cynrychiolaeth menywod ar gyrff
llywodraethu sefydliadau addysg uwch. Dim ond ychydig cyn ei marwolaeth yn 1932
dadleuodd dros system addysg genedlaethol, un lle gallai’r Cymry fod 'yn rhydd i gyflawni eu
datblygiad addysgol eu hunain' (North Wales Chronicle 24:03:1932).
Ysgol Sir Genethod Bangor County School For Girls
Images reproduced by kind permission of Bangor University
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor
Bangor County School for Girls was opened on 14 May 1895 under the provisions of the
Welsh Intermediate Education Act 1889. Originally in temporary premises at Horeb
Schoolroom Bangor, the school moved to its present location in 1897. There were 82 girls
registered, many having received scholarships to enable them to attend. The Head Mistress
was Miss Mason B.A.
Agorwyd Ysgol Sir Genethod Bangor ar 14 Mai 1895 o dan ddarpariaethau Deddf Addysg
Ganolradd Cymru 1889. Yn wreiddiol roedd mewn safle dros dro mewn ystafell yn Ysgol
Horeb Bangor, symudodd yr ysgol i'w lleoliad presennol yn 1897. Cofrestrwyd 82 o ferched,
llawer ohonynt wedi derbyn ysgoloriaethau i'w galluogi i fynychu. Miss Mason B.A oedd y
Brifathrawes.
Hostel y Merched / The Women's Hostels
1886: U.C. Hall for Women, Bron Castell. 1893: The Women’s Hall on College Road
The first University College Hall for Women was
established in 1886. Its Lady Principal, Frances E
Hughes, was strict in her interpretation of the rules.
Further she was not above maligning those she
disapproved of. One young student on the
receiving end of Hughes’ censure was accused of
being a liar, lacking in decorum and having an
impure mind. The issue ended up in the
University’s Senate which found Hughes’ charges
baseless and the Hall was closed.
A new women’s hall, the first purpose built in Bangor, was governed by the Bangor Women’s
Hostel Company Ltd., and opened under Lady Superintendent, Mary Maude, who was both
very well regarded, and liked.
Sefydlwyd y Neuadd Coleg Prifysgol i Fenywod gyntaf yn 1886. Roedd ei Phennaeth, Frances
E Hughes, yn llym yn ei dehongliad o'r rheolau. At hynny, nid oedd y tu hwnt i ddilorni’r rhai
nad oedd yn eu cymeradwyo. Cyhuddwyd un fyfyrwraig ifanc wrth dderbyn cerydd Hughes o
ddweud celwydd, o fod yn brin o urddas a bod ganddi feddwl amhur. Daeth y mater i ben yn
Senedd y Brifysgol a ganfu fod honiadau Hughes yn ddi-sail a chaewyd y Neuadd.
Llywodraethid neuadd newydd i fenywod, yr un gyntaf a adeiladwyd i’r pwrpas ym Mangor,
gan Gwmni Hostel Menywod Bangor, ac fe'i hagorwyd o dan oruchwyliaeth y Fonesig Uwch-
arolygydd, Mary Maude, a oedd yn uchel ei pharch ac yn berson hoffus.
The Normal College’s women's halls are now the University’s Management Centre. The men
lived down on the George site.
Mae cyn-neuaddau menywod y Coleg Normal yn
awr yn cael eu defnyddio fel Ganolfan Rheolaeth
y Brifysgol. Roedd y dynion yn byw ar safle’r
George. Images reproduced by kind permission of Bangor University
Lluniau atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor
Charlotte Price White
1873 - 1932
Reproduced by kind permission of Bangor University
Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor
Charlotte Price White was a science graduate of Bangor University. When she married in
1902 she made her home in the city. An active supporter of the Women’s Suffrage movement,
she was the Honorary Secretary of the Bangor and District Suffrage Society and one of only
two women from N.Wales to walk the Great Pilgrimage to London in 1913. Honorary
Secretary of the Bangor Women’s Liberal Association and chair of the Caernarfon Boroughs
Women’s Constituency Council, she was a committed supporter of the League of Nations
Union, collecting thousands of signatures for the Peace Petition. She was chair of both the N.
Wales Women’s Peace Pilgrimage and the Peace Council and together with Gwladys Thoday
and Mary Silyn led a procession of women walking from Penygroes to the Hyde Park Peace
demonstration. In 1926 she was elected the first women member Caernarfonshire County
Council, where she served until her death.
Graddiodd Charlotte Price White mewn gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Pan
briododd yn 1902 gwnaeth ei chartref yn y ddinas. Roedd yn un o gefnogwyr brwd mudiad Y
Bleidlais i Fenywod, a hi oedd yr Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Rhyddfreinio
Bangor a'r Cylch ac un o ddim ond dwy fenyw o Ogledd Cymru i gerdded y Bererindod Fawr
i Lundain yn 1913. Yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Ryddfrydol Merched Bangor
a chadeirydd Cyngor Etholaeth Menywod Bwrdeistrefi Caernarfon, roedd hi'n cefnogi
Cynghrair Undeb y Cenhedloedd yn frwd, gan gasglu miloedd o lofnodion ar gyfer y Deiseb
Heddwch. Bu'n gadeirydd Pererindod Heddwch Menywod Cymru a'r Cyngor Heddwch ac ar
y cyd a Gwladys Thoday a Mary Silyn arweiniodd orymdaith o fenywod a gerddodd o
Benygroes i wrthdystiad Heddwch Hyde Park. Yn 1926 fe’i hetholwyd yn aelod benywaidd
cyntaf Cyngor Sir Gaernarfon, lle bu’n gwasanaethu tan ei marwolaeth.
Sources /Ffynonellau
Winifred Wartski;
The Gwladys Thoday papers at Bangor University Archive.
Nathan Abrams, A Jewish History of Bangor http://www.jtrails.org.uk/trails/bangor/keydates
Cai Parry-Jones, The Jews of Wales: a History (2017).
S.A.Williams, ‘Law not War – Hedd nid Cledd; Women and the Peace movement in Wales
1926-1945’, Welsh History Review, Vol 18 (1) 1996.
Margaret, Lady Verney;
The Times, 8 October 1930.
Oxford Dictionary of National Biography.
Brenda Chamberlain:
J. Piercy, Brenda Chamberlain (2013).
K. Holman, Brenda Chamberlain (1997).
artuk.org.
artwales.com/artists.
100welshwomen.wales.
Ann Hughes / Gwyneth Vaughan;
Dictionary of Welsh Biography.
R. Reeves, Dwy Gymraes, Dwy Gymru: Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara
Maria Saunders (2014).
casgliadywerin.cymru/items/476182.
Alice Gray Jones / Ceridwen Peris;
Dictionary of Welsh Biography.
Y Goleuad, 28 April 1943.
Mary Silyn Roberts;
The Mary Silyn Roberts papers at Bangor University Archive.
The Gwladys Thoday papers at Bangor University Archive.
The Silyn Roberts papers National Library of Wales.
Historypoints.org.
wciavoices.wordpress.com.
Mary Rathbone;
The Mary Rathbone papers at Bangor University Archive.
Dictionary of Welsh Biography.
Prifysgol Bangor University and Halls:
D. Roberts, Bangor University, 1884 – 2009 (2009).
bangor.ac.uk/about/university-history.
The Bangor Normal College papers at Bangor University Archive.
bangorcivicsociety.org.uk.
archiveshub.jisc.ac.uk/search/locations/02097c3c-6639-33ce-ae5c-7ac7ba26b312.
Dilys Glynne;
The Dilys Glynne Jones papers at Bangor University Archive.
Oxford Dictionary of National Biography.
Charlotte Price White:
The Gwladys Thoday papers at Bangor University Archive.
Obituary, North Wales Observer, 6 October 1932.
B. Lawson-Reay, Votes for Women (2015).
R. Wallace, The Women’s Suffrage Movement in Wales (2018).
100welshwomen.wales.
***
This booklet can be downloaded from our website by anyone who wishes to interpret women’s
history on this Heritage walk.
Gellir lawrlwytho’r llyfryn hwn o’n gwefan gan unrhyw un sy’n dymuno dehongli hanes
menywod ar y daith gerdded Treftadaeth hon.
www.womensarchivewales.org
Authors / Awduron:
Shan Robinson, Dinah Evans and Val Wakefield.
www.womensarchivewales.org www.archifmenywodcymru.org
Charity number / Rhif elusen :1158204
Email/ Ebost [email protected]
Notes
Upper Bangor / Bangor Uchaf
Reproduced by kind permission of Bangor University
Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Prifysgol Bangor