evolve_booklet_welsh
DESCRIPTION
Rhaglen Esblygu i Fusnesau Rheoli Amrywiaeth i Lwyddo mewn Busnes Beth yw’r Rhaglen Esblygu? Tudalen Beth yw’r rhaglen Esblygu? 3 Mae amrywiaeth yn dda i fusnesau 4 Esblygu ar waith – 5 Y Gweithdy Esblygu ar waith – 6 Y Gwasanaeth Esblygu ar waith – 7 Y Gwasanaeth (parhad)… Cwestiynau cyffredin 8 Cwestiynau cyffredin (parhad)… 9 Camau nesaf 10 Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael mewn fformatau amrywiol, gan gynnwys print bras a Braille. I gael eich copi am ddim, ffoniwch 029 2047 8900 2 3TRANSCRIPT
Rhaglen Esblygu i FusnesauRheoli Amrywiaeth i
Lwyddo mewn Busnes
2
CynnwysTudalen
Beth yw’r rhaglen Esblygu? 3
Mae amrywiaeth yn dda i fusnesau 4
Esblygu ar waith – 5Y Gweithdy
Esblygu ar waith – 6Y Gwasanaeth
Esblygu ar waith – 7Y Gwasanaeth (parhad)…
Cwestiynau cyffredin 8
Cwestiynau cyffredin (parhad)… 9
Camau nesaf 10
Beth yw’r Rhaglen Esblygu?Mae’r rhaglen Esblygu yn rhoi cyfle i fusnesau bach achanolig ddatblygu strategaethau ac arferion gorau ynymwneud ag amrywiaeth, a’u gweithredu mewn ffordd a allhelpu’r busnes i lwyddo heb orfod gwario llawer iawn o arian.
Hyd yn oed os oes gennych chi eisoes bolisïau sy’n hyrwyddocydraddoldeb ac amrywiaeth, mae Esblygu yn cynnig cymorthymarferol i helpu i droi’r polisïau hyn yn atebion ymarferol sy’ndarparu manteision parhaus i’ch busnes a’ch gweithwyrcyflogedig. Pan fyddwch chi’n datblygu a gweithredu’chstrategaeth amrywiaeth, bydd eich busnes yn ymuno â llawer o brif sefydliadau’r DU sydd eisoes wedi elwa ar fabwysiadu arfer gorau o’r fath.
Trwy fanteisio ar gymorth arbenigolrhaglen Esblygu, byddwch yn gwneudmwy na dim ond cydymffurfio â’rgyfraith – byddwch hefyd yn gwellahyblygrwydd ac amrywiaeth eichsefydliad.
Mae’r llyfryn hwn yn esboniorhaglen Esblygu, sut mae’ngweithio a sut y gall eichbusnes elwa. Gan fod yrhaglen yn rhan o brosiectCenedl Hyblyg Chwarae Teg,mae’n cael ei hariannu’nllawn gan GronfaGymdeithasol Ewrop aLlywodraeth Cymru.ƒMae’r ddogfen hon hefyd ar gael mewn fformatau
amrywiol, gan gynnwys print bras a Braille.
I gael eich copi am ddim, ffoniwch 029 2047 8900
3
“Dangosodd y gweithdy i mi fodamrywiaeth yn golygu llawer mwyna pholisi, ac rwy’n falch bod tîmCenedl Hyblyg yn fy helpu iddatblygu strategaeth amrywiaetheffeithiol ar gyfer DecTek. Rwy’n si ^wrbod hyn yn beth da i’w wneud osafbwynt y staff a’r busnes.”
Dave Beese, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes,DecTek, Pontypridd www.dectek.co.uk 54
Yn 2008, cynhaliodd y ComisiwnEwropeaidd arolwg o 1,200 ofusnesau bach a chanolig a oeddwedi mabwysiadu strategaeth argyfer amrywiaeth, a dywedodd82% ohonynt fod amrywiaethwedi cael effaith gadarnhaol areu busnes.
Mae busnesau llwyddiannus yngorfod bod yn fwy arloesol nagerioed er mwyn manteisio’n llawnar bob cyfle a ddaw i’w rhan.
Mae manteision yn deillio o greuamgylchedd gwaith cadarnhaol ablaengar:
• Mwy o gynhyrchiant oganlyniad i:
> Staff mwy brwdfrydig
> Llai o absenoldeb
> Staff mwy ffyddlon
• Y busnes yn ennill enw da yn sgil:
> Gweithredu strategaeth acarferion gorau’n ymwneud agamrywiaeth
> Cyflawni’ch cyfrifoldebau achydymffurfio â’r gyfraith
> Cael eich gwerthfawrogi felcyflogwr
> Ymgysylltu’n effeithiol â staff,cwsmeriaid a chyflenwyr o bobcefndir
• Manteision o ganlyniad i:
> Roi trefniadau gweithio o bellar waith
> Mabwysiadu arferion bywyd agwaith cytbwys
“Dylai busnesau sicrhau bod ganddyntstrategaeth ar gyfer amrywiaeth ar waith,nawr yn fwy nag erioed. Yn ogystal â’chbod yn gweithredu er lles eich gweithwyrcyflogedig, trwy roi sylw i amrywiaeth yn ygweithle, gall y busnes ei hun elwa mewnsawl ffordd werthfawr, gan gynnwysgwella morâl a chynhyrchiant a lleihaucostau recriwtio. ”
Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Polisi Cynorthwyol, CBI Cymru
Leighton Jenkins
Mae amrywiaeth yn dda i fusnesau
Dave Beese
Mae rhaglen Esblygu yndechrau gyda gweithdyundydd rhad ac am ddim afydd yn eich galluogi i:
• archwilio manteisionmabwysiadu strategaeth argyfer amrywiaeth
• gwneud y gorau o fanteisionamrywiaeth i’ch busnes
• deall effaith y DdeddfCydraddoldeb newydd
• datblygu arferion gwaith mwyeffeithiol
• archwilio dulliau gweithiohyblyg a gweithio o bell
Mae’r gweithdy wedi’i ddatblygu ifynd i’r afael â’r materion hyn yngnghyd-destun yr economibresennol yng Nghymru. Mae’ngyfle gwerthfawr i dreuliodiwrnod gyda gweithwyrproffesiynol eraill yn archwiliogwahanol agweddau aramrywiaeth a dysgu sut i wneudiddynt weithio i’ch sefydliad.
Mae’r gweithdy’n addas iberchnogion, cyfarwyddwyr acuwch reolwyr busnesau bach achanolig yn y sector preifat, ysector dielw a’r trydydd sector.
Esblygu ar waith
“Mae ysgrifennu polisi cydraddoldeb acamrywiaeth yn un peth, ond mae’nrhaid i fusnesau weithredu ar hwnnwos ydynt am gael eu gwerthfawrogi felcyflogwr. Trwy raglen Esblygu, rwyfwedi derbyn cymorth a chyngorymarferol i sicrhau bod fy musnes yngweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â’rmaterion a nodir yn ein polisïau. ”
Rachael Flanagan, CyfarwyddwrMrs Bucket Cleaning Services, www.mrs-bucket.co.uk
RachaelFlanagan
“Oherwydd natur ein gwaith yn Pia,mae gennym gwsmeriaid amrywiolac rydym yn gwerthfawrogicydraddoldeb mewn amryw offyrdd. Trwy Esblygu, mae Pia yn rhoisylw i arferion gweithio o bell, gan eigwneud hi’n haws ac yn fwy cyfleusi bobl weithio i ni a’n helpu ni irecriwtio a chadw’r doniau gorau o’rgronfa ehangaf posibl.”
Sharon Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr, Pia, Cwmbran www.pia.co.uk
Sharon Williams76
Ar ôl y gweithdy, rydym yncynnig pob math o gymorthwedi’i addasu’n arbennig i’chbusnes, ac a ariennir ganEsblygu.
Rydym yn cydnabod bod pobbusnes yn unigryw, ac felly dynapam rydym yn awyddus i weithiomewn partneriaeth â chi, gangyfrannu ein harbenigedd i’chhelpu i gyflawni’ch amcanionbusnes.
Rydym yn cynnig cyngorarbenigol diduedd ar sut i reoligweithlu a chwsmeriaid amrywioler mwyn sicrhau’r fantais fwyafbosibl i’ch busnes. Trwy weithio
gyda’n gilydd, gallwn eich helpu igreu strategaeth ar gyferamrywiaeth sy’n amlinellu camaugweithredu syml a chost-effeithiol i:
• wella’ch amgylchedd gwaith
• helpu’r bobl rydych chi eisoesyn eu cyflogi i berfformio ar eugorau
• cynyddu’ch cwsmeriaid
• gweithio’n fwy effeithlon achynhyrchiol
• gwella’ch enw da corfforaethola chael eich gwerthfawrogi felcyflogwr
Y Gwasanaeth Y Gwasanaeth (parhad)…
Os byddwch chi’n credu bodangen cyflwyno gweithio o bell felrhan o’ch strategaeth ar gyferamrywiaeth, mae Esblygu hefydyn cynnig cymorth a chyngorarbenigol diduedd i helpu’chbusnes.
Gallwn helpu mewn 3 ffordd:
1 Technoleg – bydd ein RheolwrProsiect TGCh yn gweithio gydachi i nodi’r gofynion technolegsydd eu hangen ar eich busneser mwyn i chi allu mabwysiaduarferion gweithio o bell
2 Polisi a Phroses – byddwn yneich helpu i ddatblygu’r polisïaupriodol i gefnogi defnydd
effeithiol o arferion gweithio obell, yn amrywio o Ddefnydd Tego TG i Adfer Data
3 Ariannol – i helpu i weithredu a mabwysiadu arferion gweithioo bell
Cenedl Hyblyg 24/7Yr adnodd ar-lein unigryw ifusnesau sy’n cymryd rhan ynEsblygu. Cewch gyngor ar yrarferion gorau a’r wybodaethddiweddaraf am ystod o bynciau,gan gynnwys cydraddoldeb acamrywiaeth, gweithio hyblyg agweithio o bell a bywyd a gwaith cytbwys.
8
Cwestiynau cyffredinDyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eugofyn i ni am amrywiaeth yn y gweithle. Gobeithio y bydd yratebion yn ddefnyddiol i chi, ac yn eich helpu i benderfynudewis rhaglen Esblygu.
Q. Nid wyf yn cyflogi gweithlu amrywiol, felly pam ddylwn i luniostrategaeth amrywiaeth?
A. Mae amrywiaeth yn berthnasol i’ch cwsmeriaid yn ogystal â’chgweithlu. Rydym yn cydnabod nad yw llawer o BBaChau amgyflogi staff ychwanegol, ond nid yw hynny’n golygu na allwch chielwa trwy gynyddu’ch cwsmeriaid, gwella boddhad cwsmeriaid agwella ffyddlondeb eich gweithwyr cyflogedig cyfredol.
Q. Faint fydd rhaglen Esblygu yn ei chostio i mi?
A. Mae rhaglen Evolve yn cael ei rheoli gan Chwarae Teg fel rhan o’rprosiect Cenedl Hyblyg a’i chyllido gan Gronfa GymdeithasolEwrop a Llywodraeth Cymru, sy’n golygu ein bod yn cynnig eincymorth i chi am ddim.
Q. Rwy’n brysur iawn, faint o amser sy’n rhaid i mi ei neilltuo i hyn?
A. Er y bydd rhaid i chi neilltuo peth amser, mantais rhaglen Esblyguyw eich bod yn cael amser wedi’i neilltuo gydag aelod o’n tîmarbenigol. Bydd yn eich helpu i greu strategaeth a chyflawni’rcamau gweithredu. Mae hyn yn golygu y bydd gennych chi ddigono amser i barhau i redeg eich busnes.
Q. Pam trafferthu gydag amrywiaeth, rydyn ni wastad wediymdopi’n iawn hebddo?
A. Mae’r byd gwaith yn newid yn gyflym ac nid yw busnesau lleol yngallu anwybyddu’r effaith mae globaleiddio’n ei chael, yn enwedigo ran creu mwy o gystadleuaeth. Yn ogystal, mae yna newidiadau
cymdeithasol, gyda phobl yn ymddeol yn hwyrach a mwy ofenywod, pobl h^yn, pobl anabl a phobl o wahanol gefndiroeddethnig yn dod i mewn i’r farchnad lafur. Mae strategaeth ar gyferamrywiaeth yn helpu i sicrhau y gall eich busnes addasu’n naturioli’r newidiadau hyn a hyd yn oed elwa ar y cyfleoedd newydd.
Q. Rydym yn dîm bach sy’n trefnu amser i ffwrdd yn anffurfiol. Pam y dylen ni fabwysiadu polisïau ffurfiol?
A. Mae trefniadau anffurfiol yn iawn – ond nid ydynt yn diogelu’rbusnes os bydd gweithiwr cyflogedig yn cyflwyno cwyn yn ydyfodol. Heb bolisïau a systemau monitro, nid oes gan y busnesunrhyw dystiolaeth i ddangos bod ganddo ddull teg a phriodol oddyrannu amser i ffwrdd. Mae systemau anffurfiol hefyd yn cynyddu’rperygl o wahaniaethu anfwriadol gan na ellir gwarantu y byddgweithwyr cyflogedig yn cael yr un driniaeth neu’r un cyfle i drefnuamser i ffwrdd neu i weithio’n hyblyg.
Q. Mae gen i bolisi cyfle cyfartal yn barod. Onid yw strategaeth argyfer amrywiaeth yn ddim mwy nag edrych ar rywbeth osafbwynt gwahanol?
A. Mae strategaeth ar gyfer amrywiaeth yn mynd ymhellach na pholisicyfle cyfartal gan ei bod yn cynhyrchu canlyniadau go iawn amesuradwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’ch busnes. Maestrategaeth yn eich galluogi i ddangos eich bod yn rhoi’rgwerthoedd sy’n bwysig i chi ar waith ac yn manteisio i’r eithaf aramrywiaeth i’ch busnes.
Q. Sut gall strategaeth ar gyfer amrywiaeth fy helpu i gael mwy o fusnes?
A. Gall strategaeth ar gyfer amrywiaeth wella cystadleurwydd eichsefydliad wrth dendro am gontractau. Yn ogystal, gallwchddefnyddio’r strategaeth i wneud eich cynhyrchion a’chgwasanaethau’n fwy hygyrch, gan agor eich busnes i farchnadoeddnewydd a denu cwsmeriaid newydd o wahanol oedrannau ac ystodeang o gefndiroedd.
9
10
Camau nesafMae rhaglen Esblygu ar gael i fusnesau sydd â’u prif ganolfan ynun o’r awdurdodau lleol a nodir isod.
I archebu lle yn y Gweithdy neu i ddysgu mwy am Esblygu,ffoniwch y swyddfa yn eich ardal.
Y GogleddYn cwmpasu Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd
Ffôn 01492 514237
E-bost [email protected]
Y De-orllewinYn cwmpasu Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe,
Castell-nedd Port Talbot
Ffôn 01554 770612
E-bost [email protected]
Y De-ddwyrainYn cwmpasu Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili,
Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Torfaen
Ffôn 01443 824410
E-bost [email protected]
)@