gofalaeth...2020/12/11  · ystyried gwneud yr un peth yn ystod y cyfnod heriol hwn hefyd? mae angen...

8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 46 Tachwedd 12, 2020 50c. Sul yr Urdd 15 Tachwedd 2020 Ar adeg arferol, byddai trydydd Sul mis Tachwedd yn cael ei adnabod fel dydd Sul yr Urdd yma yng Nghymru. Mae ein dyled ni fel Cymry yn fawr i sefydliad yr Urdd. Fe gafodd cymaint ohonom gyfleoedd ardderchog drwyddo, i fynegi ein hunain, i fwynhau ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe gofiwn mai arwyddair yr Urdd o’r cychwyn oedd: ‘Byddaf ffyddlon i Gymru, i gyd-ddyn ac i Grist’ dyma sy’n greiddiol i ni fel Cymry, fel Cristnogion ac fel Annibynwyr. Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Dyfrig Rees, wedi ymuno â’r Urdd eleni er mwyn dangos ei gefnogaeth i’r mudiad pwysig hwn ac i ddangos cymaint y mae yntau’n gwerthfawrogi cyfraniad yr Urdd i fywyd ein hieuenctid ni ac i’n gwlad. Efallai y buasech chithau’n ystyried gwneud yr un peth yn ystod y cyfnod heriol hwn hefyd? Mae angen pob cefnogaeth ar yr Urdd. Mae aelodaeth yn costio £9, dyna’i gyd. Mae’r sylfaen gadarn gaiff ein plant a’n pobl ifanc ni drwy’r Urdd yn amhrisiadwy. Y mae ein hieuectid ni’n bobl y dylem roi clod iddynt, y maent yn lliwio ac yn llonni’n bywydau ac yn eu Er gwaethaf yr ofnau a’r pryderon yn sgil yr haint fe gynhaliwyd oedfaon – pan oedd hynny’n cael ei ganiatáu – yng ngofalaeth y Parchedig Carys Ann yng ngorllewin Ceredigion. Rydym yn gweld eisiau cyfarfodydd cyhoeddus i addoli yn fawr iawn yn ein heglwysi ac yn gweld gwerth oedfaon torfol a chanu cynulleifaol yn llawer mwy nac yr oeddem erbyn hyn. Mewn gwirionedd nid ydym yn gweld gwir werth yr hyn cyfoethogi gymaint. Ble fyddem ni heb ein hieuenctid ni? Gwerthfawrogiad Eleni ar ddydd Gwener 13 Tachwedd bydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhannu profiadau ac yn dangos ein gwerthfawrogiad o’n hieuenctid, plant a phobl ifanc ni, a’r Urdd, ar ein cyfryngau cymdeithasol ni, a hynny cyn Sul yr Urdd ar 15 Tachwedd. Ydych chi wedi elwa o’ch amser gyda’r Urdd? Ydy’ch plant chi neu berthynas arall wedi cael profiadau da gyda’r Urdd? Cyfraniadau Rhown wahoddiad i chi rannu eich meddyliau a’ch profiadau gyda ni. Efallai fod gennych hoff gerdd sy’n sôn am blant a phobl ifanc? Efallai bod gennych ddyfyniadau, cerddi, gweddïau, emynau, adnodau neu ddarlleniadau sy’n atseinio â thema ieuenctid? Neu efallai yr hoffech ysgrifennu rhywbeth eich hun? Efallai fod gennych lun sy’n addas? Anfonwch atom ni ac fe rannwn ar ein gwefan ni a thros y cyfryngau cymdeithasol. Anfonwch atom at: [email protected] cyn 13 Tachwedd, neu rhannwch naill ai ar dudalen Facebook Undeb yr Annibynwyr Cymraeg neu dros y cyfrif Twitter @AnnibynwyrCymru ar y diwrnod. Gadewch i ni ledaenu anogaeth a dangos ein gwerthfawrogiad. Gofalaeth Carys Ann Wyth Pwynt Gweddi i Bobl Ifanc yn yr Argyfwng Presennol 1. Beth wyt ti’n fwyaf diolchgar amdano? 2. Pa gwestiwn fyddet ti am ofyn i Dduw pe bai yma yn awr? 3. Beth yw’r un peth sy’n dy boeni di fwyaf? 4. Sut wyt ti’n teimlo ynglŷn â Covid? Gelli ddefnyddio emojis i gyfleu dy deimladau. 5. Enwa rywun rwyt ti’n nabod sy’n sâl a chyflwyna ef/hi i Dduw. 6. Meddylia am weithwyr allweddol rwyt ti’n eu nabod a gweddïa drostynt. 7. Pwy yw ein harweinwyr? Gofynna i Dduw rhoi doethineb iddynt. 8. Beth yw dy obeithion wedi’r argyfwng presennol ddod i ben? Gweddi Person Ifanc O Dduw Diolch am y byd rhyfeddol yma a rhoddaist i ni – helpa ni i ofalu am bob rhan o’th greadigaeth. Diolch am ddarganfyddiadau gwyddoniaeth, meddyginiaeth a seryddiaeth – helpa ni i werthfawrogi pob gwedd o’r bydysawd. Diolch am rym creadigol y celfyddydau – helpa ni i arloesi gweledigaeth a synau newydd yn ein cenhedlaeth. Diolch am feddyliau chwilfrydig a chyrff sy’n aeddfedu – helpa ni i gyrraedd ein potensial fel unigolion. Diolch am deulu, cyfeillgarwch, cymdeithas a pherthynas – helpa ni i dderbyn, deall, meithrin a maddau i’n gilydd. Diolch i ti am bopeth da sydd yn ein bywydau – bydded i ni chwarae ein rhan yn dod a heddwch, llawnder a chyfiawnder i bawb. Amen Y Parch. Carys Ann parhad ar y dudalen gefn

Upload: others

Post on 29-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 46 Tachwedd 12, 2020 50c.

    Sul yr Urdd 15 Tachwedd 2020 Ar adeg arferol, byddai trydydd Sul mis Tachwedd yn cael ei adnabod fel dydd Sul yr Urdd yma yng Nghymru. Mae ein dyled ni fel Cymry yn fawr i sefydliad yr Urdd. Fe gafodd cymaint ohonom gyfleoedd ardderchog drwyddo, i fynegi ein hunain, i fwynhau ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe gofiwn mai arwyddair yr Urdd o’r cychwyn oedd: ‘Byddaf ffyddlon i Gymru, i gyd-ddyn ac i Grist’ dyma sy’n greiddiol i ni fel Cymry, fel Cristnogion ac fel Annibynwyr.

    Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Dyfrig Rees, wedi ymuno â’r Urdd eleni er mwyn dangos ei gefnogaeth i’r mudiad pwysig hwn ac i ddangos cymaint y mae yntau’n gwerthfawrogi cyfraniad yr

    Urdd i fywyd ein hieuenctid ni ac i’n gwlad. Efallai y buasech chithau’n ystyried gwneud yr un peth yn ystod y cyfnod heriol hwn hefyd? Mae angen pob cefnogaeth ar yr Urdd. Mae aelodaeth yn costio £9, dyna’i gyd.

    Mae’r sylfaen gadarn gaiff ein plant a’n pobl ifanc ni drwy’r Urdd yn amhrisiadwy. Y mae ein hieuectid ni’n bobl y dylem roi clod iddynt, y maent yn lliwio ac yn llonni’n bywydau ac yn eu

    Er gwaethaf yr ofnau a’r pryderon yn sgil yr haint fe gynhaliwyd oedfaon – pan oedd hynny’n cael ei ganiatáu – yng ngofalaeth y Parchedig Carys Ann yng ngorllewin Ceredigion. Rydym yn gweld eisiau cyfarfodydd cyhoeddus i addoli yn fawr iawn yn ein heglwysi ac yn gweld gwerth oedfaon torfol a chanu cynulleifaol yn llawer mwy nac yr oeddem erbyn hyn. Mewn gwirionedd nid ydym yn gweld gwir werth yr hyn

    cyfoethogi gymaint. Ble fyddem ni heb ein hieuenctid ni?

    Gwerthfawrogiad

    Eleni ar ddydd Gwener 13 Tachwedd bydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhannu profiadau ac yn dangos ein gwerthfawrogiad o’n hieuenctid, plant a phobl ifanc ni, a’r Urdd, ar ein cyfryngau cymdeithasol ni, a hynny cyn Sul yr Urdd ar 15 Tachwedd. Ydych chi wedi elwa o’ch amser gyda’r Urdd? Ydy’ch plant chi neu berthynas arall wedi cael profiadau da gyda’r Urdd?

    Cyfraniadau

    Rhown wahoddiad i chi rannu eich meddyliau a’ch profiadau gyda ni. Efallai fod gennych hoff gerdd sy’n sôn am blant a phobl ifanc? Efallai bod gennych ddyfyniadau, cerddi, gweddïau, emynau, adnodau neu ddarlleniadau sy’n atseinio â thema ieuenctid? Neu efallai yr hoffech ysgrifennu rhywbeth eich hun? Efallai fod gennych lun sy’n addas? Anfonwch atom ni ac fe rannwn ar ein gwefan ni a thros y cyfryngau cymdeithasol.

    Anfonwch atom at: [email protected] cyn 13 Tachwedd, neu rhannwch naill ai ar dudalen Facebook Undeb yr Annibynwyr Cymraeg neu dros y cyfrif Twitter @AnnibynwyrCymru ar y diwrnod.

    Gadewch i ni ledaenu anogaeth a dangos ein gwerthfawrogiad.

    Gofalaeth Carys Ann

    Wyth Pwynt Gweddi i Bobl Ifanc yn yr Argyfwng Presennol

    1. Beth wyt ti’n fwyaf diolchgar amdano? 2. Pa gwestiwn fyddet ti am ofyn i Dduw pe bai yma yn awr? 3. Beth yw’r un peth sy’n dy boeni di fwyaf? 4. Sut wyt ti’n teimlo ynglŷn â Covid? Gelli ddefnyddio emojis i gyfleu dy

    deimladau. 5. Enwa rywun rwyt ti’n nabod sy’n sâl a chyflwyna ef/hi i Dduw. 6. Meddylia am weithwyr allweddol rwyt ti’n eu nabod a gweddïa drostynt. 7. Pwy yw ein harweinwyr? Gofynna i Dduw rhoi doethineb iddynt. 8. Beth yw dy obeithion wedi’r argyfwng presennol ddod i ben?

    Gweddi Person Ifanc O Dduw Diolch am y byd rhyfeddol yma a rhoddaist i ni – helpa ni i ofalu am bob rhan o’th greadigaeth. Diolch am ddarganfyddiadau gwyddoniaeth, meddyginiaeth a seryddiaeth – helpa ni i werthfawrogi pob gwedd o’r bydysawd. Diolch am rym creadigol y celfyddydau – helpa ni i arloesi gweledigaeth a synau newydd yn ein cenhedlaeth. Diolch am feddyliau chwilfrydig a chyrff sy’n aeddfedu – helpa ni i gyrraedd ein potensial fel unigolion. Diolch am deulu, cyfeillgarwch, cymdeithas a pherthynas – helpa ni i dderbyn, deall, meithrin a maddau i’n gilydd. Diolch i ti am bopeth da sydd yn ein bywydau – bydded i ni chwarae ein rhan yn dod a heddwch, llawnder a chyfiawnder i bawb. Amen

    Y Parch. Carys Ann

    parhad ar y dudalen gefn

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 12, 2020Y TYST

    Ar y Dydd Hwn: Tachwedd

    14 Tachwedd Ganwyd David Rees, ‘Y Cynhyrfwr’, yn Gelli-lwyd, plwyf Tre-lech, Caerfyrddin (1801-69), gweinidog (A) a golygydd Y Diwygiwr.

    14 Tachwedd Ganwyd John Curwen (1816–1880), addysgwr cerddorol a hyrwyddwr Sol-ffa, yn Heckmondwike, Swydd Efrog.

    15 Tachwedd Ganwyd y bardd a’r emynydd William Cowper, (1731–1800.) Bardd, emynydd a llythyrwr

    22 Tachwedd Ganwyd Thomas Cook (1808–1892) sefydlydd cwmni teithio, yn Melbourne, Swydd Derby.

    23 Tachwedd Bu farw Thomas William, Bethesda’r Fro, (1761–1844), gweinidog (A) ac emynydd. Rhoddwyd ei gorff i orffwys wrth fur capel Bethesda’r Fro.

    24 Tachwedd Bu farw John Knox c.1514–1572, diwygiwr Cristnogol.

    25 Tachwedd Hwyliodd Thomas Jones, (1810–49) ar long y Jamaica i Calcutta ym 1840. Ef oedd cenhadwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn India.

    25 Tachwedd Bu farw’r emynydd Isaac Watts (1674–1748) a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bunhill Fields, Llundain. Hefyd ym mis Tachwedd 1741 priododd gydag Elizabeth James – cyn ddyweddi i Howell Harris – yng Nghapel Martin, Caerffili.

    29 Tachwedd Ganwyd Clive Staples Lewis (1898–1963), awdur ac ysgolhaig. Bu farw 22 Tachwedd.

    David Rees o’r Bywgraffiadur.

    ’Rôl darllen ysgrif hynod ddiddorol Alun Lenny am y Parchg Thomas D. Jones a gweld llun o gapel Gwernogle dyma ddwyn i gof weinidog yr oeddwn yn ei ’nabod yn dda ac ef oedd gweinidog olaf Gwernogle, Llidiadnennog a Chapel Newydd, Abergorlech, sef Idwal Evans.

    Ganwyd Idwal yn Llanarth, Ceredigion, ac mae Angharad ei ferch parhau i fyw yn yr hen gartref. Aeth i ysgol y pentref ac i ysgol enwog y Tiwtorial yng Ngheinewydd ac wedyn i ysgol John Phillips yng Nghastellnewydd. Mae’r adeilad a’r ysgol un ystafell yn dal yn y dref a bu John Phillips a’i dad Evan Phillips yn cadw ysgol yno am flynyddoedd. Byddai yn dda pe bae rhywun yn mynd ati i ymchwilio i hanes yr ysgolion rhagbaratoawl yma megis Neuaddlwyd a’r Myrddin. Byddai John Phillips yn dysgu nifer o bynciau a pharatoi’r myfyrwyr ar gyfer arholiad er mwyn cael mynediad i’r tri choleg oedd gennym fel Annibynwyr sef Bala-Bangor, Caerfyrddin ac Aberhonddu. Tipyn o gamp oedd cael mynediad gan fod yna gynifer yn ymgeisio a’r safon yn uchel.

    Bu Idwal yn llwyddiannus yn ei gais i fynd i Bala-Bangor a bu yno ymhlith myfyrwyr disglair oedd yn gyfeillion oes iddo ac yn arbennig Gwilym Williams (Y Bala gynt) ac Erastus Jones (Blaendulais gynt). Roedd gan Idwal ddau anabledd a’i llethodd ar hyd y blynyddoedd sef ei goes (gan iddo gael polio a threulio rhai blynyddoedd yn orweddiog) a hefyd ei fyddardod ac yn ôl Erastus byddai’n dilyn darlithiau’r Prifathro John Morgan Jones a’r Athro J. E. Daniel trwy ddarllen eu gwefusau. Cafodd gyfarpar clyw yn ddiweddarach a’i bleser mwyaf oedd cael clywed yr adar yn canu am y tro cyntaf. Cwblhaodd ei gwrs yng Ngholeg Bala-Bangor ac yr oedd trwy gydol ei oes yn parhau i sôn am y cyfnod arbennig hwnnw. Yn anffodus methodd a chael galwad gan eglwys gan fod eglwysi diweinidog yn brin, chwedl Harri Parri yn ei gyfrol ddiweddaraf pan ddywed ‘fod mwy o lygod nag oedd o dyllau!’

    Ymestyn gofalaeth

    Symudodd yn ôl i gartref ei briod yn Llainwen, Synod Inn ac yn

    GWEINIDOG OLAF GWERNOGLEBrynrhiwgaled y bu iddynt briodi. Dyma’r eglwys ble magwyd fy mam, fel

    mae’n digwydd, ac roedd hi a Florrie yn blant ac ieuenctid yn y Bryn. Ymhen ychydig amser daeth galwad o Wernogle iddo fod yn olynydd i’r diweddar Barchg Hywel Thomas oedd wedi symud i Banteg a Libanus. Ymhen rhai blynyddoedd ychwanegwyd Capel Newydd, Abergorlech, at ei ofalaeth, daeth yn olynydd i Penri Edwards

    (Pentretygwyn, Pantycelyn) yn ddiweddarach. Symudodd y teulu i’r mans hyfryd yn y pentref oedd â gwell chyfleusterau na’r rhai yn Gwernogle. Un o ddiddordebau Idwal oedd arlunio a daeth ef a Towyn Jones yn gyfeillion mynwesol oherwydd eu diddordeb mewn celf.

    Cymanfa bwnc

    Rwy’n cofio Florrie yn fy ffonio – wedi inni symud i Bontardawe – yn gofyn i mi ddod i bregethu yng nghyrddau diolchgarwch Gwernogle ac yno fe gefais y croeso gorau. Roedd y ddau yn ymfalchio eu bod rhai Suliau ynghynt wedi cynnal y gymanfa bwnc a’r lluoedd wedi dod draw o’r Gwyddgrug a Llanllwni. Cawsant oedfaon bendithiol, a llwyddasant i borthi’r dyrfa fawr â bwyd gorau cefn gwlad Sir Gâr!

    Gweinidogaeth arbennig

    Pan oeddwn ni’n gweinidogaethu yng ngorllewin Caerfyrddin byddwn wrth fy modd yn cwrdd ag Idwal ac yntau yn gwmnïwr da ac yn mwynhau bod ymhlith y criw mawr o weinidogion y Cyfundeb y niwedd y chwedegau a dechrau’r saithdegau. Cyflawnodd Idwal a Florrie weinidogaeth hollol gydwybodol yn y cylch a dyma enghraifft wych o weinidogaeth tim. Gweinidog di-sôn-amdano fu Idwal i enwad yr Annibynwyr ond roedd y ddau ohonyn yn frenin a brenhines ymhlith eu pobl. Daeth geiriau soned T. Rowland Hughes i’r hen weinidog i’r cof yn enwedig y ddwy linell olaf:

    Buasai rhai yng Nghwmyglo Yn barod i farw drosto fo.

    Diolch i Alun Lenny am ei ysgrif a chyfle i ddwyn i gof Idwal a Florrie annwyl a gobeithio y daw cyfle rhyw ddydd i ymweld â mynwent Capel Newydd i dalu gwrogaeth iddynt.

    Gareth Morgan Jones

    Llun gan Alun Lenny

  • Gwers 19

    AndreasGweddi:

    Drugarog Dduw, plygwn ger dy fron ynwylaidd ac yn ostyngedig, gan ofyn amdy fendith yn ein myfyrdod heddiw.Siarad gyda ni o’r newydd a rhanna dyair â ni. Wrth gofio heddiw am un oddisgyblion Iesu yn oes y TestamentNewydd, helpa ni i feddwl am ein rhanni yn dy eglwys di. Amen.

    Darllen: Ioan 12:20–28

    Cyflwyniad

    Enwir y disgyblion gan y pedwarefengylydd, a hynny yn gynnar yn eucyflwyniadau am gyfnod Iesu yncerdded ar hyd llwybrau Palesteina. Nidoes modd gwybod pa ganran o’r tairblynedd a gawn. Mwy na thebyg buontmewn mannau nad oes cofnod ohonynt,a bod digwyddiadau, cyfnodau oaddysgu ac iacháu nad ydynt yn caelsylw penodol. Yn yr un modd, bydd ypedwar efengylydd yn defnyddio’radnoddau a ddaeth i’w llaw i ddibenionpenodol, gan gofio’u bod yn ysgrifennumewn cyfnodau amrywiol ac igynulleidfaoedd gwahanol. Mae’n wirdweud bod Marc a Luc yn ddibynnol arffynonellau eraill, ac er bod Mathew acIoan yn rhan o’r deuddeg disgybl, nidoes disgwyl eu bod yn cofio pob unmanylyn.

    Wrth nodi galw’r disgyblion, sylwnfod Mathew, Marc, Luc ac Ioan yn nodienwau’r disgyblion mewn trefnwahanol ac nid ydynt yn cofnodi’r

    broses honno o alw yn yr un ffordd ynunion. Nodwn fod enwau Pedr acAndreas, Ioan ac Iago, yn agos i’r brig,ac yn amlwg yn creu cylch mewnol oblith gweddill y disgyblion. Daw enwAndreas yn gynnar yn adroddiad Ioan,gan gyfleu fod hwnnw wedi cael eigyfareddu gan Iesu, ac ar ei gyfle cyntafwedi mynd ar ôl ei frawd, Seimon Pedr,a’i gymell yntau i ddilyn Iesu. Andreasa dywysodd eraill at Iesu, ac er nad oescofnod o’i bregethu, bydd ei esiampl felcenhadwr a chyflwynydd yn ddigon.

    Myfyrdod:

    Beth yw disgwyliadau’r cyhoedd oaelodau ffyddlon yr eglwysi, a beth ywsyniad aelodau o waith gweinidogion adiaconiaid eglwysi?* Mae ganweinidogion ystod amrywiol o ddoniau:rhai yn siaradwyr da, eraill yn ei chaelyn haws i gymdeithasu nag eraill, rhaiyn drefnwyr effeithiol, a galwyd eraill igyfrannu fel awduron academaidd neuaddysgwyr bywiog. Mae’r unamrywiaeth ymysg diaconiaid eglwysi;ni ellir disgwyl i bawb ragori ar bobagwedd o gyfrifoldebau diaconiaid.Wedi’r cyfan, gwaith tîm ywgweinidogaeth eglwys ac nidcyfrifoldeb unrhyw unigolyn penodol.

    Oni ddylai pob aelod, felly,ddefnyddio pa ddoniau bynnag syddganddo neu ganddi i gyfrannu atfwrlwm bywyd eglwys? Mewn sefyllfaddelfrydol, byddai gweld trefnu seddauar ffurf cylch yn lle rhesi unffurf yngolygu nad oes blaen a chefn; roeddagwedd y Brenin Arthur a’i FwrddCrwn yn flaengar iawn.

    Nid oes cofnod i Andreas bregethu’n

    gyhoeddus nac anfon llythyr at eglwys.Nid oes sôn iddo sefydlu eglwys namynd ar daith genhadol benodol. Maecynifer o ffeithiau na ddaethant i sylwLuc, awdur Llyfr yr Actau. Ondgwyddom fod Andreas yn un aymatebodd i gyhoeddiad IoanFedyddiwr drwy gyfeirio at Iesu fel‘Oen Duw’ (Ioan 1:40) ac a arweiniodderaill at Iesu, fel yn hanes bwydo’r pummil (Ioan 6:8,9), ac ymweliad yGroegiaid (Ioan 12:20–22). Roedd ynun a oedd oddi mewn i gylch o ffrindiauagos Iesu, yn berson dibynadwy adefnyddiol, yn un a welai waith a bwrwati i’w wneud. Nid oedd yn berson iloetran yn y cysgodion pan oedd tasgaui’w cyflawni, a diolch am bob aelodeglwysig felly.

    Gweddi:

    Diolch, nefol Dad, am Andreas ac ambawb tebyg iddo sy’n sylweddoli bodcyfle i wasanaethu Iesu mewn ffordddawel ac effeithiol. Os gweli ddefnyddAndreas ynom ni, Arglwydd, agor einclustiau i glywed a’n llygaid i weld ycyfle i fod yn ddefnyddiol iti. Amen.

    Trafod ac ymateb:

    • Trafodwch ddisgwyliadau’r gym -deithas o aelodau eglwysig adisgwyliadau’r eglwys ei hunohonynt ac o’r rhai sy’n cael eu galwi waith penodol yn eu plith. (Gw. ycwestiwn cyntaf ar ddechrau’r adran‘Myfyrdod’*).

    • Beth oedd doniau arbennigAndreas? Sylwch ar y darlleniadau aroddir ym mharagraff olaf y‘Myfyrdod’.

    • ‘Lle bynnag yr wyf i, yno hefyd ybydd fy ngwasanaethwr’ (Ioan12:26). Ydyn ni’n gosod ein hunainyn y man y mae Iesu ac yn barod igolli ein hunain wrth ei ganlyn a’iwasanaethu?

    Tachwedd 12, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    Darlith Flynyddol Morlan–Pantyfedwen 2020

    ‘Understanding Young Millennials: Values, Identities and Belonging’gyda’r

    Athro Linda Woodhead, Prifysgol Caerhirfryn

    Cadeirydd: Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth

    Cynhelir y Ddarlith Flynyddol hon am 7.30 nos Lun, 16 Tachwedd 2020.Oherwydd y cyfyngiadau, bydd y ddarlith eleni yn cael ei chynnal ar Zoom.

    Ymddiriedolaeth

    Foundation

    Er mwyn cofrestru a derbyn y ddolen Zoom,cysylltwch ag

    Ymddiriedolaeth James Pantyfedwengyda’ch enw a’ch cyfeiriad e-bost

    Ffôn: 01970 612806E-bost: [email protected]

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

    (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • Mae’n Dechrau Draw ymMethlehem – Rhigwm Stori’r Geniar gyfer Nadolig eleni

    Mae ein llyfryn newydd i blant ar gyfery Nadolig ar ffurf mydr ac odl! Ynogystal â’i ddyluniad lliwgar a bywiog,mae ynddo nifer o dudalennau sydd hebliw, gan gynnig gweithgaredd hyfryd i’rplant i’w wneud yn rhywbeth personoliddyn nhw. Mae modd i chi archebu’rllyfrynnau ar ein gwefan ac maegostyngiad i’w gael os ydych yn prynunifer arbennig ohonynt. I gyd-fynd â’rllyfryn mae fideo animeiddiedig i’wlawrlwytho am ddim, sy’n ddelfrydoli’w ddangos yn eich gwasanaeth eglwysneu ysgol. Hefyd, mae fersiwn hwylioga rhyngweithiol o stori’r Geni ar gael –Drama Nadolig Sydyn. Addasiad ydywo’r llyfryn Nadolig sydd wedi ei greu felbod modd ei ddefnyddio ar-lein os naallwch fod gyda’ch gilydd yn yr eglwys.Gallwch lawrlwytho’r sgript yn ogystalâ lluniau cefndirol i gyd-fynd â’rddrama am ddim.

    I’r timau Agor y Llyfr allan yna, maeyna hefyd wasanaeth Agor y Llyfrnewydd wedi ei greu sy’n seiliedig ar yllyfryn. Os nad ydych yn medru cynnalgwasanaeth yn fyw yn yr ysgol, beth amgeisio’i gyflwyno dros Zoom?Mae nifer o dimau erbyn hyn wedibwrw ati i gyflwyno hanesion Agory Llyfr dros y we. Os ydychwedi gwneud hyn eisoes, mi fyddem ynfalch o glywed am eich profiad a’irannu gydag eraill. Gallwch gysylltu â[email protected].

    Felly, beth am brynu copïau o’rllyfryn i’w rhoi fel anrheg Nadolig i’rplant yn eich ysgolion lleol, eichysgolion Sul neu fel anrheg i aelodauo’ch teulu?

    Cofiwch ymweld â’n gwefan:www.cymdeithasybeibl.cymru.

    Agor y Llyfr

    Mae wedi bod yn chwe mis hir arhyfedd i ni i gyd, ac er bod ysgolionwedi ailagor rydymymhell o fod yn ôli’r normal ac ynrhydd i ymweld agysgolion fel timauAgor y Llyfr.

    Er gwaethaf y sefyllfa bresennol,mae’r timau wedi bod yn ceisio cadwmewn cysylltiad â’r ysgolion mewnffyrdd ymarferol: anfon cardiau gydanegeseuon calonogol, mynd â bisgedii’r staff, helpu gyda’r garddio – a hefyddrwy gynhyrchu ffilmiau o straeonBeiblaidd!

    Erbyn hyn mae gennym lyfrgell offilmiau ar ein gwefan yn barod i’wrhannu ag ysgolion, ond rydym angenmwy o ffilmiau Cymraeg; does dimangen Cerdyn Equity nac offerarbenigol, dim ond ffôn clyfar,cyfrifiadur a lot o frwdfrydedd!

    Mae hi’n dal yn bosibl derbynhyfforddiant craidd naill ai drwyddilyn y gyfres ar-lein neu drwyfynychu sesiwn Zoom; mae’n addas ar

    gyfer Storïwyr unigol newydd, timaunewydd neu fel cyfle i ailhyfforddi.

    Adnoddau’r Cynhaeaf – Rydym ynfalch iawn o’n partneriaeth agYmddiriedolaeth Trussell i gynhyrchuAdnoddau’r Cynhaeaf ar gyfer timau aceglwysi; mae’n cynnwys stori newyddsbon gyda sgript a syniadau i’wchyflwyno.

    Adnoddau Nadolig – Mae adnoddaugwych Cymdeithas y Beibl yn barodi’w harchebu ar lein. Fel y soniwydeisoes, mae gennym stori newydd sbon,Mae’n Dechrau Draw ym Methlehem,ac i gyd-fynd â hi mae ffilm wedi’ihanimeiddio, gwasanaeth ar ffurf Agory Llyfr a gwasanaeth ‘pop-up’ ar gyfercapeli/eglwysi.

    Os hoffech godi ymwybyddiaeth amAgor y Llyfr yn eich capel, maegennym gyfres newydd o ffilmiau byrwedi’u creu yn benodol i’r diben yma:sgwrs recriwtio gan Meleri, a Storïwyryn darllen Salm 78 ac yn sôn pam maennhw wrth eu bodd gydag Agor y Llyfr.Hwyliwch draw i wefan Open the Booki ddod o hyd iddynt a’r holl adnoddaueraill. Plis, ymunwch â ni i weddïo drosein Timau a thros ysgolion ein gwlad fely bydd cyfleoedd i ddod â’r Beibl ynfyw yn parhau drwy’r cyfnod gwahanolyma.

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 12, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Cymdeithas y Beibl yn rhannu adnoddauChwilio am adnoddau ar gyfer eich eglwys neu ysgol ar gyfer y Nadolig?Neu efallai eich bod yn chwilio am anrheg i’w gyflwyno i’r plant, i’r ieuenctidneu aelod o’r teulu? Am rai syniadau, ewch i gael cipolwg ar dudalennau eingwefan: www.cymdeithasybeibl.cymru.

    Ac wele, ar fore llwyd o Hydref, daethangylion ataf drwy gyfrwng Zoom.Troesant eu hwynebau ataf ac roeddentyn hardd, mor hardd â phren eboni.Roedd urddas yn eu gwedd a gwawr ogariad yn eu llygaid.

    Ac meddai un o’r angylion wrthyf,“Mae’n fis hanes pobl dduon. Mae’rPenllywydd eisiau i ti ymddiheuro amgamweddau’r gorffennol yn eu herbyn”.

    Dychrynais o glywed neges yrangylion. Cuddiais fy llygaid rhagddyntac meddwn wrthynt, “Ymddiheuro?!Beth sydd gan hynny i’w wneud â mi?Rydw i’n byw yma yng Nghymru wen,Cymru lonydd, yn ddyn gwyn o’rdosbarth canol ac yn freintiedig fy myd.Beth sydd gan hanes pobl dduon i’wwneud â mi?”

    “Llawer,” meddai’r angel, “llaweriawn.”

    “Ond,” meddwn innau ar ei thraws,“yma yng ngorllewin ein gwlad, ymhellbell o’r ddinas aml ei hil ac aml eidiwylliant, does fawr neb ohonom yn

    ddu ein crwyn – heblaw am Abdul a’ideulu yn y bwyty lawr yr hewl. Ni, ysiaradwyr Cymraeg, yw’r lleiafrifethnig sydd dan orthrwm yma. Bethsydd gan hyn oll i’w wneud â mi?”

    “Taw! Ac agor dy lygaid,” meddai’r

    Agor Llygaid

    Llun gan Elesban Landero Berriozábalar Unsplash

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Wrth i ymosodiadau milwrol arGristnogion yn Nagorno-Karabakhgodi’r bygythiad o hil-laddiadArmenaidd arall, daeth galwad arnomoll i weithredu’n weddigar.

    Mae maint a ffyrnigrwydd yranghydfod presennol rhwngAzerbaijan a Thwrci, sy’n cynnwysgollwng bomiau clwstwr a wnaed ynIsrael ar drigolion diniwed, hyd ynoed wrth iddynt gysgodi mewnadeiladau eglwysig, wedi dwysáu’rpryder dealladwy ymhlithCristnogion Armenaidd ynghylch ybygythiad cynyddol o lanhau ethnigyn eu tiriogaeth Gristnogolhanesyddol.

    Ar 1 Tachwedd, rhybuddioddUchel Gomisiynydd Hawliau Dynoly Cenhedloedd Unedig y gallai’rymosodiadau diwahân ar ardaloeddpoblog iawn yn y rhanbarth fod yngroes i gyfraith ddyngarolryngwladol ac y gallent fod yndroseddau rhyfel. Gwelwyddinasyddion cyffredin yn colli eubywydau a’r seilwaith yn cael eiddinistrio.

    Mae adroddiadau diweddar arannwyd â’r mudiad Barnabas yn nodibod cyflenwadau mawr o arfau a

    adeiladwyd yn Israel, gan gynnwysdronau kamikaze dinistriol a CherbydauAwyr Di-griw Hermes (UAVs), wedicael eu cyflenwi i Azerbaijan a’udefnyddio yn erbyn trigolion Cristnogolcyffredin.

    Adroddir bod tua 90,000 oArmeniaid, mwy na hanner poblogaethy rhanbarth o tua 144,000, wedi ffoirhag y gwrthdaro yn Nagorno-Karabakhi loches yn Armenia ers i’r ymladddiweddaraf ddechrau ym mis Medi.

    Wrth dynnu sylw at sefyllfa

    enbydus y Cristnogion hyn yn nhalaithNagorno-Karabakh yn Armenia, mae’rmudiad Barnabas yn gofyn i gefnogwyrgymryd camau gweddigar nawr i godiymwybyddiaeth ar draws eu hollrwydweithiau, a hefyd i ysgrifennu at

    lywodraeth Israel a llysgenhadonIsrael ledled y byd, gan ofyn am ycanlynol:

    1. bod gwerthu arfau milwrol iAzerbaijan, arfau a ddefnyddiryn erbyn Cristnogion ynNagorno-Karabakh, yn dod i benar unwaith;

    2. gwarant na ddefnyddir technolegIsraelaidd yn y gwrthdaro, gangynnwys ymosodiadau drônangheuol;

    3. ymdrechion i ddod â’r ymladd iben a gweithredu cadoediad, a

    4. chydnabyddiaeth gan lywodraethIsrael o hil-laddiad Armenia ganrifyn ôl.

    Gan gysylltiadau Cronfa Barnabas affynonellau eraill

    (Rhagor o wybodaeth, dolenni a dulliaucyfrannu: www.barnabasfund.org)

    Tachwedd 12, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    angel. Ac yn sydyn fe atgoffodd yrangylion fi o fyrdd o bethau:

    • fy mod i’n hoff o de a choffi a’m bodyn cymryd siwgr i’w melysu;

    • bod cotwm yn gyfforddus i’wwisgo;

    • bod yna gangen o’n teulu yn Sir Fônsy’n cefnogi Everton oherwydd bodein cyndadau wedi cael gwaith ynnociau Lerpwl;

    • bod teulu’r wraig wedi ymfudo oSwydd Gaerhirfryn i gwm glofaolyn y de ar ôl i’r ffatrïoedd cotwmyno gau;

    • bod fy hen fodryb gapelgar,heddwch i’w llwch, yn casglu elusencenhadaeth yn flynyddol ‘at yblacs’;

    • fy mod i wedi canu mewn capel am‘gannu Ethiop du yn wyn’;

    • bod yna gasgliad o fathodynnau ynyr atig – amryfal gymeriadaucroenddu Robertson’s Jam;

    • fy mod i wedi gwneud jôc rywdroam Gymru du-Gymraeg;

    • fy mod i wedi bod yn araf iawn ynherio hiliaeth ffwrdd-â-hi ambell‘gymeriad’ o gymydog;

    • fy mod i’n dueddol o wfftio rapwyr;• bod gen i berthynas yn America sy’n

    llawer rhy barod i ladd ar dlodion duei neighbourhoods lleol;

    • nad ydw i erioed wedi cydweithio âpherson croenddu;

    • nad ydw i’n adnabod unrhyw bersondu sy’n ymwneud â chapel,cyfundeb nac enwad;

    • bod y syniad wedi croesi fy meddwlpa ddiwrnod, am eiliad, fodbywydau pawb yn bwysig;

    • fy mod yn ddyn gwyn o’r dosbarthcanol ac yn freintiedig fy myd.

    Ac meddai’r angylion drachefn, yn uncôr, “Ar ôl i ti agor dy lygaid, mae’rPenllywydd eisiau i ti agor dy galonhefyd.”

    Diflannodd yr angylion a chafwydgoleuni mawr.

    Gareth Ioan

    (Ymddangosodd gyntaf yn e-fwletinwythnosol y mudiad Cristnogaeth21. Erbod mis hanes pobl dduon wedi myndheibio, mae hi’n flwyddyn cofio hynnyyn ôl Llywodraeth Cymru a diolchwnam ganiatâd i atgynhyrchu’r ysgrif acam gyfle i gael tynnu sylw at hanes pobldduon yng Nghymru. (Gol.))

    Galwad frys i weithredu’n weddigar

    Sul, 15 Tachwedd

    OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

    am 11:00yb

    Yr wythnos yma, bydd yr Oedfao dan ofal Parchedig Aled Edwards.

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Yr wythnos yma, fe gawn ni wybod mwyam waith arbennig rhai o’n sefydliadauaml-ffydd. Nia fydd yn dysgu mwy amgefndir a phwysigrwydd wythnos rhyng-ffydd yma yng Nghymru a Ryland fyddyn torchi llewys ac yn helpu’r projectFood For Life. Daw’r canu mawl o bobrhan o Gymru.––––––––––––––––––––––––––––––

    Oedfa Radio Cymru15 Tachwedd am 12:00yp

    yng ngofalCarys Ann, Rhydlewis

    Cristnogion Armenaidd yn cysgodi rhag y bomiomewn seler

    Agor Llygaid (parhad)

  • Mae’n beth prin inni fyw trwy sefyllfasydd wedi effeithio arnon ni yngNghymru yr un pryd ag y mae’neffeithio ar bobl o amgylch y byd.Ddim yn aml yr ydym wedi profibygythiad a rannwn â’n cymdogionbyd-eang mewn gwledydd morwahanol ag Ethiopia, Libanus aNicaragua.

    Mae Covid-19 a’r ymgais i atal eiymlediad wedi taro’r byd trwy gydol2020, gan ddinistrio bywydau, codiofn, difetha bywoliaethau a gorfodipobl fregus i dlodi gwaeth.

    Ond wrth inni agosáu at y Nadolig,cawn ein hatgoffa am berson sydd weditroi’r byd wyneb i waered er daioni, unoedd â’i fywyd mewn cyfnod oorthrwm ac ofn wedi dod â gobaith adrawsnewidiodd y byd wrth i’w negesymledu.

    Wrth inni edrych tuag at Emaniwel,Duw gyda ni, y Nadolig hwn, cawn einhatgoffa fod Duw yn cerdded gyda nitrwy gyfnodau anodd ac yn gweithiotrwom ni ym mhob sefyllfa i ddangoscariad i’r byd: cariad nad yw byth ynmethu; cariad sy’n uno; cariad sy’nadeiladu gobaith.

    Ethiopia

    Wedi eu hysbrydoli gan Iesu, maecefnogwyr Cymorth Cristnogol yncerdded gyda’r rhai y mae’rCoronafirws yn ddim ond un herychwanegol ar ben sawl her aralliddynt, yn cynnwys yr argyfwnghinsawdd, anghydfod ac yn 2020effaith locustiaid.

    Mae eich rhoddion a’ch gweithredoeddchi yn helpu pobl fel Mekonnen Sofaryn ardal De Omo, Ethiopia, sy’ncloddio hyd at fetr o ddyfnder mewngwely afon er mwyn chwilio am ddfiri’w dda byw. Mae’r argyfwng hinsawddyn gwthio’i deulu i newyn ac ynbygwth ei ffordd o fyw.

    Mae ffrindiau iddo, cyd-fugeiliaid aphlant wedi marw wrth gloddio morddwfn nes i’r gwely sych syrthio ar eupennau.

    Mae Cymorth Cristnogol yngweithio gyda theuluoedd fel unMekonnen i roi ffynhonnell ddfirgymunedol iddynt ac archwilio ffyrddgwahanol o greu incwm, fel creu sebono aloe vera a phlannu cnydau sy’nwydn mewn sychder.

    Mae traddodiadau’n newid, maecariad yn parhau

    Mae’r cyfyngiadau sy’n rheoli sut ygallwn gyfarfod ac ymwneud â’ngilydd wedi ein gorfodi i ailfeddwlynghylch beth yw cymuned. Ond maeein cefnogwyr yn gwybod ein bod wediein clymu ynghyd mewn ffordd lawerdyfnach na’r firws ac maent wedidangos penderfyniad cadarn i barhau iymestyn allan tuag at eraill.

    Y Nadolig hwn caiff eglwysi eugwahodd i ymuno mewn ennyd oundod a gobaith ar Sul cyntafyr Adfent, 29 Tachwedd, trwyddefnyddio’r garol newydd ‘Pan anedgynt mewn tlodi’ wrth iddynt addoli agwneud casgliad dros GymorthCristnogol.

    Mae’r garol ar gael ar ein gwefan(caid.org.uk/christmasresources) acmae’n dathlu cyfraniad Mair a galwadmawr y proffwyd i baratoi ffordd iDduw a’i deyrnas. Y Nadolig hwn,gallwn ddathlu’r gwirionedd anhygoelein bod wedi ein huno ym mhedwarban y byd gan gariad sy’n wydn ynwyneb haint, sychder a thywyllwch, acsy’n adeiladu gobaith i’n hollgymdogion.

    I wybod mwy am Apêl NadoligCymorth Cristnogol, yn cynnwys sut iweithredu dros gyfiawnder hinsawdd,ewch i: caid.org.uk/hope. Yr Adfenthwn,

    • gallai £15 hyfforddi un wraig igreu sebon aloe vera;

    • gallai £80 brynu dwy afr i helputeulu i adeiladu gwell dyfodoliddynt eu hunain, a

    • gallai £290 dalu am ddeunyddac offer i adeiladu pwll,fyddai’n sicrhau cyflenwaddibynadwy o ddfir i gymunedgyfan.

    Lluniau: Cymorth Cristnogol/Elizabeth Dalziel

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 12, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dathlwch gariad sy’n adeiladu gobaith yr Adfent hwnAPÊL NADOLIG CYMORTH CRISTNOGOL

    Mae prinder glaw yn golygu bod y bugail Mekonnen Sofar ynei chael hi’n anodd cael dfir i’w wartheg

    Mae Mekonnen Sofar yn cloddio am ddfir ar gyfer ei dda bywmewn gwely afon sych

  • Tachwedd 12, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolGrym trawsffurfiol pobl

    Wrth wrando ar raglen radio’r wythnos hon yn trafod effeithiau cyfnod y Covid ar ein cymunedau, daeth y sgwrs at yr effaith ar deuluoedd. Wrth i’r ail gyfnod clo dwys ddod i ben yng Nghymru, roedd y sgwrs yn trafod yr amser anodd y mae teuluoedd sydd ag anwyliaid mewn cartrefi preswyl wedi ei gael, yn methu mynd i’w gweld am gyfnodau hir a’r ymdrechion y mae cartrefi preswyl wedi eu gwneud i sicrhau bod y cyswllt gyda’r teulu’n parhau.

    Y frawddeg a’m trawodd wrth wrando ar fab yn disgrifio perthynas ei fam a’i dad – y fam mewn cartref a’r tad yn ceisio ymweld cyn amled â phosibl – yn ystod y cyfnod clo oedd, ‘wnes i fyth sylwi ar rym trawsffurfiol presenoldeb fy nhad ar fy mam cyn y cyfnod hwn.’ Aeth ymlaen i sôn bod gan ei fam dementia a’i bod yn ystod y cyfnod clo wedi dirywio’n arwyddocaol. Ond pan yr oedd ei dad yn cyrraedd ac yn dweud yr helo gyntaf yna, roedd wyneb ei wraig yn goleuo bob tro ac yr oedd yn bywiogi ac yn llawn sgwrs. Roedd ei hwyliau’n gwella bob tro y

    byddai’n ymweld am gyfnod. Does dim os nag oni bai, mae

    sgileffeithiau’r firws yma’n bellgyrhaeddol.

    Age Concern Nododd arolwg diweddar Age Concern ar effaith y cyfnod cofid fod gan un o bob tri lai o egni, bod un o bob pedwar o bobl hŷn yn methu cerdded cyn belled ag o’r blaen a bod un o bob pump yn teimlo’n llai cadarn ar eu traed. Mae iechyd meddwl pobl hŷn hefyd wedi dirywio’n arwyddocaol hefyd gyda’r gyfran o bobl dros 70 oed sy’n profi iselder wedi dyblu ers dechrau’r pandemig. Y mae llawer o waith dwys a gwaith brys wedi ei wneud yn barod i sicrhau bod ein hasiantaethau a’n hawdurdodau lleol yn ymdrechu i gyrraedd pob un anghenus o fewn ein cymunedau.

    Beth am yr eglwys? Ond i ba raddau ydyn ni fel eglwysi’n gofalu am y cymunedau y tu hwnt i’n cylchoedd aelodaeth ni? I ba raddau mae ystyried anghenion ein cymunedau estynedig wedi bod yn rhan o’n gwaith ni ers mis Mawrth? Oes gyda chi gynllun

    gwaith am y flwyddyn? Neu ai bodoli o Sul i Sul sy’n digwydd, gydag ambell gwrdd gweddi fan hyn a fan acw ar Zoom?

    Mynd amdani! Eglwys actif oedd bwriad yr Iesu onide? Eglwys sydd yn gyson ymateb i heriau cyfnewidiol ein hoes. Ei alwad oedd i ni rannu’r newyddion da trwy’n gweithredoedd gan drawsffurfio bywydau eraill yn ei enw Ef. Felly dewch! Beth am ystyried hyn wrth i ni agosáu a pharatoi at y Nadolig? Beth am estyn allan i gymuned newydd yn eich ardal i gynnig cymorth? Beth am gynnig noson canu carolau ar Zoom yn eich ardal? Beth am gymryd rhan yn yr ymgyrch i ganu ‘Dawel Nos’ am 7 y nos ar noswyl Nadolig ar eich stryd gan rannu gwahoddiadau i’ch cymdogion gyda’r geiriau ym mha bynnag iaith, mae gen i Almaenes yn byw drws nesaf i fi. Dewch â’ch syniadau, rhannwch nhw a rhannwch y newyddion da!

    Chi ydy’r golau sydd yn y byd. Mae’n amhosib cuddio dinas sydd wedi’i hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i’w gosod o dan fowlen! Na, dych chi’n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. Dyna sut dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi’n eu gwneud.

    Mathew 5:14–16

    Elin Maher (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

    yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

    TEYRNGED I GOLEG YR ANNIBYNWYR‘Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd. Canys i un, trwy’r Ysbryd. y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd ... ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.’

    [I Corinthiaid 12: 7,8,10]

    Ar ôl mwy na 35 mlynedd o ddysgu amrywiol ieithoedd mewn ysgolion a cholegau o bob math (y rhai olaf yn ddwy ysgol gyfun Gymraeg wych), ac o gyfieithu ar ran y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, yr oedd fy ngwraig a minnau yn byw yn Sir Gâr a minnau wedi ymaelodi yn Providence, Llangadog. Daeth y cyfle yn ystod gaeaf 1998 i fynychu cyfarfod yn Salem, Llanymddyfri ac i siarad wedyn â’r Parchedig Wilbur Lloyd Roberts, a fyddai, gyda’i briod Alma, yn gyfaill cyson dros y blynyddoedd i ddod hyd at ei farwolaeth ar ôl afiechyd di-gwyn y llynedd. Awgrymodd ef y gallwn, gydag Eirwyn Stephens, milfeddyg a phregethwr achlysurol o Lanymddyfri, fynd ddeuddydd yn ddiweddarach i gymryd rhan yng nghwrs preswyl y Coleg Diwinyddol Unedig yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth, ble byddai’r

    Athrawon Eifion Powell a Gareth Watts yn arwain y darlithoedd ar addoliad. Ac felly y bu, a dechrau’n syth wedyn i ddilyn y cwrs pedair blynedd (wedi’i gynllunio gan Wilbur) a fwriedid ar gyfer ymgeiswyr i’r weinidogaeth.

    Bethania, Tymbl

    Cynhelid dosbarthiadau bron bob wythnos ym Methania, Tymbl Uchaf, gyda dysgu a

    thrafod a thraethodau rheolaidd; a’n tiwtor ardderchog ar y dechrau oedd y Parchg Euros Wyn Jones, a gollwyd yn gynamserol ac yn ddisyfyd ddwy flynedd yn ôl. Yr ydym ni y myfyrwyr, sy’n cynnwys Ken Williams ac Alun Lenny, wedi synnu wrth nodi bod Euros weithiau’n cychwyn ar ei daith adre i Langefni ar ddiwedd y dosbarth am ddeg o’r gloch yr hwyr a theithio trwy’r nos.

    Troeon yr yrfa

    Y tro cyntaf imi bregethu’n gyhoeddus oedd ym mis Awst 1999, a hynny trwy wahoddiad ysgrifennydd eglwys yr Undodiaid, Brondeifi, Llanbedr Pont Steffan. Roedd ef yn gydaelod â mi yng Nghymdeithas Edward Llwyd ac fe estynnodd y gwahoddiad wrth inni gerdded ar daith Mynydd Bach, Trecastell a’r Pigwn ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Yr oedd y

    prinder cynyddol o wenidogion yn derbyn cryn sylw yn ystod y cyfnod hwnnw; ac fe ymddangosodd y llyfryn bach, Y Ffordd Ymlaen, y flwyddyn ganlynol. Yr oeddwn yn awyddus ar y pryd i ddilyn y trywydd hwn, ond gwaetha’r modd ni chefais fy nymuniad, ond ces i’r fraint a’r pleser o weithio’n drylwyr trwy baratoi ac arwain oedfaon mewn sawl tref a llawer ardal yng nghefn gwlad a mannau mwy dinesig, gan gynnwys Llundain, Birmingham a chapel y Tabernacl, Treforys. Mae bywyd wedi parhau fel hynny dros gyfnod o bron i bymtheng mlynedd, yn gyfanswm o 641 oedfa mewn 173 o gapeli ac eglwysi gwahanol.

    Trwy hyn i gyd yr wyf wedi profi ffyddlondeb a charedigrwydd cynulleidfaoedd sydd â hanes a thraddodiadau mor drawiadol. Gyda’r cyfnod clo, mae’n rhaid cadw draw yn gorfforol; ond mae Coleg yr Annibynwyr wedi cyfoethogi fy mywyd yn gyfan gwbl, trwy ei haelioni, ei ysgolheictod, a’i groeso difesur. Diolch o galon am bopeth.

    Michael Allen Goodchild

    Y diweddar Barchedig Euros Wyn Jones

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 12, 2020Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

    Golygydd Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    sydd gennym tan y byddwn wedi ei golli. Er y siom o beidio â chael canu, yr ydym yn parhau i werthfawrogi clywed geiriau’r emynwyr yn cael eu darllen.. Hyderwn y cawn gwrdd eto’n fuan.

    Yn sicr, nid oes unrhyw beth eleni wedi bod yn arferol yn enwedig yr oedfaon tros dymor diolchgarwch am y

    Gofalaeth Carys Ann – parhad

    cynhaeaf. Afraid dweud bod yr oedfaon diolchgarwch wedi bod yn wahanol iawn i’r cyffredin. Serch hynny, yng ngorllewin Ceredigion fel yn aml i ardal arall gwerthfawrogid yn fawr yr oedfaon gwahanol fu wrth ddiolch am y cynhaeaf.

    Yn y llun gwelir y Parchedig Carys Ann yn anfon neges o’i chartref trwy recordiad fideo at ddisgyblion Ysgol Bro Siôn Cwilt, Synod Inn, Ceredigion a hwythau’n ymateb i’w chais i ymuno yn

    y weddi. Hefyd daeth cais gan Glwb Ffermwyr Ifanc Troedyraur, i gael neges fideo ac felly y gwnaethpwyd. Os yr hoffech wel yr oedfaon gellir gwneud hynny trwy droi at dudalennau Facebook, Ysgol Bro Sion Cwilt a Clwb Ffermwyr Ifanc Troedyraur.

    Carys Ann

    PLYGU GLIN Mae’r canlynol yn ymateb i erthygl Robin Samuel i FIS POBL DDUON, yn Y Tyst, 22 Hydref 2020.

    Tra’n darllen cyfraniad Robin Samuel yn ei erthygl, aeth â fi yn ôl i’r dyddiau pan oeddwn i’n blentyn yn tyfu i fyny yn Llanfairpwll, a’m teulu yn aelodau o Gapel Ebenezer y pentref, y Capel Bach. Nid oedd gweinidog yno ar y pryd. Pregethwyr cynorthwyol fyddai’n cynnal y gwasanaeth yno bron pob Sul, gydag ambell i gwrdd gweddi rŵan ac yn y man. ‘Pum blaenor oedd yno, a’r pump yn cymryd rhan.’

    Roedd gwraig un ohonynt, yn Saesnes oedd wedi dysgu Cymraeg. Roedd yn gallu darllen yn rhwydd ond heb ddigon o hyder i lefaru ar goedd. Felly, y rhan amlaf, gweddiai hi yn Saesneg. Roedd tri o’r lleill yn gweddïo yn uchel eu llais, yn glir ac yn eglur, gan eu bod wedi hen arfer!

    Ond gweddi’r pedwerydd sydd wedi aros yn y cof, dim yn gymaint y weddi ei hun, ond y modd iddo ei thraddodi. Gŵr mewn oedran ydoedd, wedi ymddeol beth bynnag. Gwnaeth ei ffordd i ffrynt y sedd fawr i blygu glin, ac roedd yn cael tipyn o drafferth i wneud hynny. Yna, wedi cau ei ddwy lygaid yn sownd, estynnai ei ddwy law at ei ên cyn dechrau gweddïo. Os oedd pawb yn ddistaw cyn hynny, roedd rhyw awyrgylch arbennig trwy y lle yn awr. Ac yna, y weddi ei hun. Mewn llais tyner, distaw fel ei bod yn anodd ei glywed, gyda gostyngeiddrwydd, dechreuai siarad ȃ’i Arglwydd. Iddo fo, toedd ond y ddau ohonyn nhw yno. Y fo a’i Arglwydd.

    Dyna’r darlun sydd wedi aros gyda mi. Enw’r hen fachgen oedd Mr Francis Howells. Efallai i rai ohononch adnabod ei ferch oedd yn briod i’r Parch. Trefor Evans, Cricieth. Gŵr hynaws arall.

    Mabel Winterburn, Porthcawl

    MIS HANES POBOL

    DDUON 2020

    Capel Pisgah Talgarreg yn addoli.

    Felly os y Mab a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.

    (Ioan 8, ad. 36)

    Mae’r hwn fo’n gaeth yn rhydd ‘Brawdoliaeth’, Waldo Williams

    Dal fi O Dduw, dal fi yn gaeth, dal fi â’th afael gref, fel gallwyf innau fod yn rhydd i weithio gwaith y Nef.

    Os cyfyd rhwystrau ar y daith fel muriau, maen ar faen, fy nghysur fydd mai Ti yw’r Ffordd a’m nerth i ddal ymlaen.

    Er nad oes neb all weled ing a phoen fy ofnau cudd, o Feddyg Da ymwêl â mi yng nghell fy meddwl prudd.

    A phan ddarlledo’r byd ei boen a’i derfysg ar fy nghlyw, daw Newydd Da Tywysog Hedd ar donfedd awyr Duw.

    Os byddaf ddall i angen plant, os byddar wyf i’w cwyn, daw ataf ble Y Bugail Da, ‘Tyrd, portha di fy ŵyn.’

    Os bwystfil anghrediniaeth ddaw a’m hudo i i’w ffau, o tyred Addfwyn Oen i’r bwlch i’m hachub a’m rhyddhau.

    O dal fi Iesu, dal fi’n gaeth a phaid a’m gollwng i, fel gallwyf innau fod yn rhydd i’th wasanaethu Di.

    Meirion Evans

    Y CAETHIWED AMGEN