gallcymru - clyfar. gwyrdd.iach

16
Syniadau ar gyfer Senedd gyntaf Cymru Rhifyn 1: Addysg, iechyd a’r amgylchedd GallCymru Clyfar. Gwyrdd. Iach.

Upload: plaid-cymru

Post on 10-Mar-2016

214 views

Category:

Documents


1 download

DESCRIPTION

Addysg, iechyd a’r amgylchedd

TRANSCRIPT

/01

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Syniad

au ar gyferS

enedd

gyntaf Cym

ru

Rhifyn 1:

Ad

dysg, iechyd

a’r am

gylchedd

GallCymruClyfar. Gwyrdd. Iach.

/02

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

© Plaid Cymru The Party of WalesISBN 0-905077-84-9

Dyluniwyd gan:kutchibok.co.uk

Uned 5,Gweithdai Brenhinol Stuart,Adelaide Place, Bae Caerdydd, Caerdydd / CF10 5BR

/02

Facebook Twitter

Cadwch mewn cysylltiad a’r Blaid trwy ddefnyddio twitter neu facebook

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/03

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach “Nid yw dogmâu’r gorffennol tawel yn ddigonol i’r presennol stormus. Mae anawsterau lu o’n blaenau a rhaid i ni godi i’w hwynebu. Fel y mae ein hachos yn newydd, felly hefyd y mae angen i ni feddwl o’r newydd a gweithredu o’r newydd. Rhaid i ni ymryddhau o’n llyffetheiriau, a thrwy hynny achub ein gwlad.”

Abraham Lincoln, 1862

Syniad

au ar gyferS

enedd

gyntaf Cym

ru

Rhifyn 1:

Ad

dysg, iechyd

a’r am

gylchedd

/03

Papur trafod ymgynghorol yw hwn sy’n eich gwahodd i ddweud eich ddweud. Mae’ch barn ar y cyn-nwys yn bwysig i ni. Mae’r ddogfen ar gael o Uned Ddatblygu Polisi Plaid Cymru: [email protected] Cyhoeddwyd gan: Yr Uned Ddatblygu PolisiPlaid CymruTy Gwynfor, Llys Anson,Glanfa’r Iwerydd,Caerdydd, CF10 4AL

/04

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Mae Cymru yn 2010, fel pob cenedl arall ar y blaned, wedi’i sigo yn dilyn argyfwng ein hamseroedd. Argyfwng a gychwynnodd mewn eiddo, a roes dân dan wasgfa ariannol a achosodd ddirwasgiad ledled y byd a dyled gyhoeddus oedd yn chwyddo’n enfawr, a hynny wedi diweddu yn y toriadau llymaf mewn gwasanaethau cyhoeddus ers y 1930au.

A hyn oll yng nghysgod trychineb posibl newid hinsawdd wedi’i achosi gan ddynoliaeth.

Y peth rhyfedd a hyd yn oed mwy difrifol, o ystyried yr amgylchiadau, yw’r argyfwng hinsawdd deallusol: diffyg meddwl o’r newydd. Mae syniadaeth amlycaf ein hoes yn gynnyrch systemau a sefydliadau’r ganrif ddiwethaf. Does ganddynt mo’r arfogaeth i roi’r atebion sydd eu hangen i broblemau heddiw.

Mae’r cyfan uchod yn creu teimlad o ddiymadferthedd ac impasse yn hanes y ddynoliaeth. Felly mae byd a nodweddir gan ansicrwydd am y presennol a pharlys am y dyfodol yn mynegi ei hun ar don o ansicrwydd.

I’r gwactod hwnnw y mae’n rhaid i ni chwistrellu gobaith newydd mewn byd newydd a dynoliaeth newydd, ac yng nghyd-destun ein cartref ni, Cymru newydd. Cymru sy’n gynyddol hyderus yn ei statws fel cenedl a’i lle yn y byd ehangach.

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/04

Bedair blynedd yn ôl, fe ddywedasom yn hy fod Cymru arall yn bosibl. A thros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi dangos sut y gall meddwl o’r newydd wneud gwahaniaeth go-iawn. Fe wnaethom addo creu agenda Cymreig newydd, a dyna wnaethom.

Dyma sut:

Sicrhau refferendwm i roi i Gymru Senedd go-iawn ac adolygiad o’r modd y mae ein cenedl yn cael ei chyllido.

Amddiffyn ein hysbytai a buddsoddi yn eu dyfodol. Torri biwrocratiaeth trwy ostwng nifer y byrddau iechyd o 22 i 7.

Amddiffyn miloedd o swyddi yn ystod y dirwasgiad a chyflwyno strategaeth economaidd newydd sbon i gefnogi ein busnesau cynhenid ym mhob cwr o’r wlad.

Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a gwella cysylltiadau rhwng De a Gogledd a Dwyrain a’r Gorllewin trwy ein cynllun trafnidiaeth cenedlaethol.

Sicrhau dyfodol mwy disglair i gymunedau gwledig trwy ddatblygu’r Cynllun Newydd-Ddyfodiaid i helpu ffermwyr newydd a gweithio gyda chymunedau gwledig i greu’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol gorau.

/05

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/05

Creu tai newydd fforddiadwy, buddsoddi mewn cysylltiadau band llydan a newid canllawiau cynllunio i gefnogi cymunedau.

Cyflwyno Mesur Iaith Gymraeg hanesyddol newydd, gwasanaeth newyddion Cymraeg arloesol a’r strategaeth addysg cyfrwng-Cymraeg cyntaf erioed.

Ond rydym eisiau gwneud mwy. Mae ar Gymru angen arweinyddiaeth – i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, nid eu rheoli; i gynllunio’r hyn sy’n bosibl, nid rhoi llinell ddu ogwmpas terfynau ein galluoedd, er gwaethaf cyllidebau sy’n edwino.

Sail ein gweledigaeth, fel erioed, yw ein gwerthoedd sylfaenol:

Mai pobl Cymru ddylai fod yn gyfrifol am lunio’u tynged eu hunain a ffurf y genedl

Fod gwella cyfleoedd bywyd y tlotaf yn brif fesur cynnydd cymdeithasol ac economaidd

Mai ansawdd ein perthynas, nid cyfoeth materol, yw arwydd cymdeithas dda

Y dylai pob plentyn gael yr un cyfle i fyw bywyd hapus a chyflawn gyda grym gwybodaeth, syniadau a deall.

Nid ydym yn addo dim llai na gweledigaeth newydd i Gymru. Gweledigaeth seiliedig ar uchelgais, parch i’n gilydd a chyfrifoldeb ar y cyd. Gweledigaeth newydd i Gymru newydd.

Dyma’r gyntaf mewn cyfres fer o bapurau trafod sy’n amlinellu’r weledigaeth newydd hon

/06

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/06

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/07

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Mae bron bob gwlad yn y byd yn awr yn diwygio ei system addysg, i arfogi’r genhedlaeth nesaf i ymdopi a gofynion globaleiddio a chyflymder newid technolegol. Ond dyw diwygio ddim yn ddigon. Mae arnom angen chwyldro.

Fe’n genir oll â doniau naturiol a chwilfrydedd cynhenid am y byd yr ydym yn byw ynddo; fe ddylai ein plant, waeth beth fo’u cefndir nac incwm eu teulu, gael yr un cyfle. Fe ddylem gydnabod fod tlodi yn lleidr doniau a chyfleoedd. Yn rhy aml o lawer, mae doniau ein plant yn cael eu mygu, eu diddordeb yn cael ei gladdu a’u huchelgais yn cael ei dagu. Mae gormod o athrawon wedi colli eu symbyliad, gan amddifadu Cymru a’r byd o’n hased fwyaf gwerthfawr: ein creadigrwydd.

Mae gwreiddiau’r gwastraff trychinebus hwn ar dalent yn ddwfn a lluosog:

pwyslais cul ar bynciau academaidd a chymwysterau ar draul yr ymarferol, y galwedigaethol a datblygu unigolion hyderus, hapus a chyflawn.

Gall Cymru fod yn genedl greadigol

/07

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

agwedd sych at ddysgu mathemateg a’r gwyddorau.

erydu diddordeb mewn addysg gorfforol, y dyniaethau, ieithoedd a’r celfyddydau, yn yr ysgol a’r tu allan.

syniad am addysg fel ras gydag enillwyr a chollwyr, yn hytrach na chyfle cyfartal i bawb dyfu mewn sgiliau a galluoedd.

Arweiniodd chwyldro diwydiannol y 19eg ganrif at fodel diwydiannol o ddysgu mewn ysgolion – hyfforddi gweithlu ar gyfer economi oedd yn cael ei arwain gan gynhyrchu a chydag agwedd gul at ddisgyblaeth a moeseg gwaith, dan weinyddiaeth elite bychan.

Rhaid i addysg hepgor y model traddodiadol - llinellol, mecanyddol a safonedig - a dod yn fwy crwn - gan feithrin dawn, hau hadau, datblygu sgiliau nid yn unig ynglyn â dysgu ffeithiau, a chreu’r amodau i’n plant ffynnu yn organig ac yn ddeinamig, pawb yn ei ffordd unigryw ei hun.

Mae cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen i’r plant ieuengaf yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn.

ˆ

/08

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/08

Dylai addysg ymwneud â brwdfrydedd, ynni a chyffro. Yn rhy aml o lawer, mae’r system o addysg ddiwydiannol yn tynnu pobl ifainc ymaith oddi wrth eu diddordebau eu hunain, eu doniau naturiol a’u creadigrwydd. Rhaid i ni symud ymaith oddi wrth system haearnaidd o ddysgu at addysg wedi ei bersonoleiddio a’i deilwrio at anghenion pob plentyn - gan ddefnyddio technoleg newydd dysgu hunan-gyfeiriedig ond cysylltiedig i’n helpu i gyrraedd at y nod hwn. Fel y crybwyllwyd, mae cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen i’r plant ieuengaf yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn, ond fedr arloesedd a chreadigrwydd mewn addysg ddim dod i ben yn saith oed.

Rhaid i ni ehangu cysyniad addysg y tu hwnt i’r ysgol i greu i bob plentyn rith-amgylchedd dysgu - gan ddefnyddio ffynonellau dysgu, rhwydweithiau dysgu a thechnoleg a dulliau dysgu sy’n ategu sefydliad traddodiadol yr ysgol. Rhaid i ni ryddhau myfyrwyr ac athrawon i ddysgu, gyda chydraddoldeb a mwy o gyswllt rhwng pynciau, a rhoi i athrawon yr arfau a’r anogaeth i ddysgu mewn modd sy’n eu cyffroi a’u symbylu hwy a’u disgyblion.

Dylai addysg fod yn seiliedig o gwmpas y plentyn, ei ddoniau a’i ddiddordebau, gan droi cwricwlwm

cenedlaethol yn gwricwlwm personol y tu mewn i fframwaith o gefnogaeth allanol - oherwydd bod pobl yn gwneud eu gorau pan fyddant yn gwneud yr hyn y maent wrth eu bodd yn wneud.

Mewn cyd-destun ehangach, mae angen i ni symud ymaith oddi wrth system lle mae gwybodaeth yn cael ei gadw y tu ôl i waliau gwirioneddol neu waliau diogelwch byd eiddo deallusol at fyd newydd lle mae gwybodaeth a diwylliant ar gael i’w rannu ac er mwyn cydweithio.

I greu’r Genedl sy’n Dysgu, rydym eisiau creu gwasanaeth Llyfrgell i’r 21ain ganrif fydd yn galluogi pob dinesydd i fenthyca unrhyw lyfr a gyhoeddwyd trwy’r post, gan dalu cost y postio’n unig - a symud i system gludo e-bost i’r rhai fuasai’n dewis hynny, gan ymgorffori ffilm a sain lle bo system bresennol hawlfraint yn caniatáu.

Mae twf dwyieithrwydd yn un o lwyddiannau’r Gymru gyfoes. Yr ydym yn benderfynol y dylai darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn awr ac yn y dyfodol ateb y galw. Rhaid i ni hefyd adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy ddod yn genedl dairieithog ymhen cenhedlaeth - gyda chyfran gynyddol o’n myfyrwyr ysgol, addysg bellach a phrifysgol yn

“Dylai addysg fod yn seiliedig o gwmpas y plentyn”

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/09

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/09

treulio cyfnodau yn astudio mewn gwledydd eraill yn Ewrop a thu hwnt, yn ogystal ag astudio pynciau eraill trwy gyfrwng eu trydedd iaith. Rydym eisiau cychwyn trwy gyflwyno trydedd iaith o 7 oed.

Mewn addysg uwch, mae angen mwy o bwyslais ar arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth gyda chyfalaf cychwyn a datblygu

i gwmnïau deilliol yn enwedig yn y diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu seiliedig ar ddylunio, a thechnoleg werdd. Gall y cynigion yn y Rhaglen Adfywio Economaidd gyflawni’r agenda hon o gofio’r cydweithredu cynyddol rhwng y sector addysg uwch a busnes.

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/010

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/011

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Mae graddfa’r her a wynebwn ym maes iechyd fel cenedl yn amlwg. Daeth clefydau cronig yn nodwedd o gymunedau Cymreig: mae gordewdra, clefyd y galon, canser a chlefyd y siwgr yn rhy gyffredin. Mae gan ein GIG rhagorol ran hanfodol i’w chwarae, ond ni ddylai trin y cyflyrau hyn dynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd wrth eu gwraidd.

Gyda chost gynyddol afiechyd cronig a thon henaint ar fin ein taro’n galed, does dim modd dal ymlaen fel hyn. Mae ymdrechion dros y blynyddoedd diwethaf wedi canoli ar ail-lunio’r GIG ar sail angen y claf, gwella profiad pobl o ofal iechyd a mesur llwyddiant trwy foddhad cleifion.

Bellach, mae arnom angen agwedd ar draws llywodraeth sydd yn pwysleisio lles trwy gydol oes ac ar atal yn hytrach na thrin, ac sy’n hybu model holistig o iechyd dynol, gan drin yr unigolyn cyfan, gorff a meddwl, er mwyn creu gwir iechyd a hapusrwydd. Mae hyn yn mynd ag iechyd o’r ysbyty ac i’r cartref.

GallCymru fod yn genedl fywiog

Y syniad mawr, y syniad all wneud gwahaniaeth i’n bywydau oll - o’i roi yn dechnegol - yw cyd-gynhyrchu: y cleifion a’r gweithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd i gael canlyniadau iach: gwell deiet, gwell ymarfer, rheoli straen a rhoi’r gorau i ysmygu.

I gyrraedd y weledigaeth hon, rydym eisiau troi ein gwasanaeth iechyd yn wasanaeth iechyd cyhoeddus a phersonol, gyda systemau sy’n canoli ar y claf, a thrwy ein byrddau iechyd lleol, sicrhau integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol, a mwy o le i fentrau cymdeithasol mewn cyflwyno gofal iechyd. Yn gyffredinol, rydym eisiau gwneud yn sicr y rhoddir mwy o bwyslais ar iechyd cyhoeddus ac atal erbyn diwedd y ddegawd hon. Rydym eisiau iddi fod yn bosibl i bobl fynd at eu cofnodion meddygol electronig a defnyddio band llydan a thelefeddygaeth i dorri i lawr ar amser teithio, gan eu helpu i gadw llygad ar eu maeth a’u lles cyffredinol, a’i gwneud yn haws mynd at gyngor arbenigol pan fydd ei angen.

/012

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Dylai fod gan bawb yng Nghymru hawl i gynllun iechyd personol fydd yn ymdrin ag ymarfer, deiet a gofal arbenigol.

Uwchlaw popeth, rhaid i ni annog pobl i reoli eu hiechyd eu hunain cyhyd ag sydd modd, gan eu cefnogi a’u hannog i fyw bywydau iachach, aros allan o’r ysbyty a theimlo’n dda, trwy eu helpu i ddeall mwy a chymryd mwy o ran yn eu hiechyd a’u hapusrwydd eu hunain.

I wrthweithio anghydraddoldeb mewn iechyd, rydym eisiau rhoi mwy o gymhellion i feddygon newydd gymhwyso i fynd i ardaloedd difreintiedig trwy gynllun noddi, er enghraifft, trwy ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr.

Rydym eisiau i ddeintyddion a hyfforddir dan y GIG ddarparu lleiafswm o gyfran o’u hamser dan delerau’r GIG.

Fe ddylem gael adolygiad o’r ddarpariaeth meddygon teulu y tu allan i oriau o’r bôn i’r brig, fel y gall cleifion dderbyn gwasanaethau o safon yn eu cymunedau eu hunain pan fyddant angen hynny, yn lle’r status quo cyfyngedig.

Nid oes digon o gyfle i annog plant a phobl ifanc i chwarae nac i fyw bywydau bywiog yn yr awyr

agored. Rydym eisiau sicrhau y daw’r profiad awyr agored yn rhan o fywydau ein holl bobl ifanc, trwy gyflwyno a chefnogi clybiau wedi’r ysgol a hanner diwrnod chwaraeon bob wythnos.

Rydym eisiau creu mwy o erddi cymunedol a rhandiroedd – gan greu diogelwch cymunedol a diogelwch bwyd trwy droi mannau cyhoeddus a thir nas defnyddir yn ffermydd trefol, ac annog cymunedau i dyfu a bwyta bwyd lleol.

Rydym eisiau gweithio i greu rhwydwaith o fentrau cydweithredol iechyd a bwyd er mwyn sicrhau fod bwyd iach, fforddiadwy a lleol ar gael trwy fwytai cydweithredol lleol a phreifat, a marchnadoedd ffermwyr.

Rydym eisiau lansio Bwyd Blasus, Bwyd Bro - ymgyrch deiet a maeth Gymreig newydd ar sail creu systemau bwyd lleol ym mhob rhan o Gymru.

Yn olaf, ochr yn ochr â’r mesur confensiynol o berfformiad economaidd, Gwerth Ychwanegol Crynswth, rydym eisiau datblygu mesur newydd o les ehangach, ar y cyd a nifer cynyddol o wledydd ledled y byd, Gwerth Ychwanegol Net - a fydd yn mesur lefel lles cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

“rhaid i ni annog pobl i reoli eu hiechyd eu hunain”

/013

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/014

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Bu’r ymdrech i oroesi yn wastad yn rhan o’n naratif fel cenedl. Yn awr, mae i’r naratif hwnnw ystyr byd-eang wrth i ni ddod wyneb yn wyneb â difrifoldeb her amgylcheddol y degawd nesaf. Mae’r pegwn olew a’r argyfwng hinsawdd yn bygwth goresgyn y cyfan o’r Gorllewin datblygedig. Ni allwn ni yng Nghymru osgoi ein dyletswydd i helpu, mewn ffordd fechan, i lywio’r blaned at lwybr gwahanol a llai dinistriol. Ar yr un pryd, rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i baratoi ac amddiffyn ein cymdeithas a’n heconomi rhag y wasgfa ynni ac adnoddau sydd ar fin dod. Rydym eisiau torri trwodd ar raddfa fawr o ran gweddnewid stoc adeiladau presennol Cymru, gan greu Ardaloedd Carbon Isel - i wrthweithio tlodi tanwydd a gostwng allyriadau trwy ddod a thai o safon isel i fyny i safonau effeithlonrwydd ynni uwch, trwy gyfuniad o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus a model menter gymdeithasol seiliedig ar fesurau cyllido effeithlonrwydd ynni’r cartref talu ymlaen a thalu wrth arbed, ar ddim cost i’r trigolion mewn cartrefi teuluol, a dal yr arbedion ar filiau ynni’r dyfodol.

GallCymru:Ein Gwerddon

/014

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

Rydym eisiau prif-ffrydio beicio - gan fuddsoddi mewn rhwydweithiau trefol a gwledig o lwybrau gwyrdd, llwybrau beicio unswydd, a gwneud pobl yn fwy hyderus i feicio. Cyflwynir cynlluniau peilot newydd mewn trefi ac yng nghefn gwlad, gan adeiladau ar Fenter Trefi Teithio Cynaliadwy. Ein nod fydd sicrhau y cymerir 10% o’r holl deithiau ar feic.

Rydym eisiau hwyluso creu Gwyrdd Cymru sef Glas Cymru newydd er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddol, cwmni cyhoeddus cenedlaethol nid-am-elw sy’n defnyddio adnoddau naturiol Cymru er lles Cymru a’r blaned, i fuddsoddi mewn ynni gwynt y môr, y tonnau a’r llanw, a datblygu lagwn llanw cyntaf y byd. Fe ddaw Cymru - gyda’i channoedd o filltiroedd o arfordir - yn arweinydd byd mewn cynhyrchu Algae, gan ddefnyddio’r micro-organebau hyn mewn system gylchol i ddal carbon a’i ddefnyddio fel ffynhonnell ynni adnewyddol, gwrtaith, olew tanwydd a chemegolion. Byddwn yn sicrhau menter fawr i ddefnyddio biomas i gynhyrchu bioynni a bio-olosg, y bydd modd ei ddefnyddio i wella ffrwythlondeb y pridd a’i allu i storio carbon.

ˆ

/015

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

“Byddwn yn prif-ffrydio beicio - gan fuddsoddi mewn rhwydweithiau trefol a gwledig o lwybrau gwyrdd, llwybrau beicio unswydd, a gwneud pobl yn fwy hyderus i feicio. Cyflwynir cynlluniau peilot newydd mewn trefi ac yng nghefn gwlad, gan adeiladau ar Fenter Trefi Teithio Cynaliadwy. Ein nod fydd sicrhau y cymerir 10% o’r holl deithiau ar feic.”

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/016

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach

/016

“beth allwn ni wneud gyda’n gilydd”.

Gan gychwyn yn 2012 rydym eisiau cyflwyno diwrnod cenedlaethol di-gar i helpu i newid agwedd pobl at gerdded, beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus.

Rydym eisiau gwneud gorsafoedd gwefrio ceir trydan yn anghenraid mewn pob adeilad cyhoeddus newydd o 2016 ymlaen, gan ymchwilio i bosibiliadau technoleg stribed codi tâl ar wyneb ffyrdd, a sicrhau y bydd fflyd o geir trydan hawdd i’w rhentu ar gael ym mhob prif orsaf reilffordd. Cynigir grantiau i gwmnïau tacsi trwy Gymru i drosi i geir trydan, gan gychwyn gyda chynllun peilot.

Rydym eisiau lansio menter y Trefi Siarter: cystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y gymuned gyntaf i fod 100% yn ddibynnol ar ynni adnewyddol.

Ein cynllun i’r dyfodol

Y flwyddyn nesaf, bydd Cymru ar drothwy pennod newydd yn ei hanes, gyda’r refferendwm i greu Senedd go-iawn. Ond fedr y newid ddim aros yno. Yn awr, yn fwy nac erioed o’r blaen, mae angen gweledigaeth glir i drawsnewid Cymru i’r wlad yr ydym ni eisiau iddi fod. Mae’r Blaid yn barod i gynnig y weledigaeth honno. Fydd pobl Cymru yn disgwyl dim llai.

Yn y ddogfen drafod hon, yr ydym wedi dechrau amlinellu rhai o’r syniadau sy’n rhan o’r weledigaeth honno.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gofyn i chi helpu i greu’r Gymru yr ydym oll eisiau ei gweld. Y cwestiwn pwysicaf yn yr etholiad hwn, wedi’r cyfan, yw nid beth y medrwn ni fel plaid wneud i chi. Mae’n fater o’r hyn y gallwn oll ymgyrraedd ato trwy feddwl a gweithio gyda’n gilydd, mewn cenedl y mae ei phobl yn meddwl gyntaf nid am “beth sydd arna’i eisiau”, ond “beth allwn ni wneud gyda’n gilydd”.

GallCymru fod ynClyfrach. Gwyrddach. Iachach